Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (PCAP) wedi ymuno â ffermwyr a thirfeddianwyr i ddysgu mwy am gyfrinachau ein gwyfynod godidog. Dim ond un o nifer yw prosiect y Gwyfyn Godidog, a ariennir gan y Gronfa Rhwydweithiau Natur, ac a fwriedir i wneud gwahaniaeth parhaol i fywyd gwyllt a threftadaeth Sir Benfro, ac i’r tirfeddianwyr a’r gwirfoddolwyr all gymryd rhan.
Yn rhedeg tan fis Mawrth 2028, bydd PCAP yn defnyddio’r gronfa i wneud gwaith i gael statws cadwraeth ffafriol ar safleoedd sydd o werth mawr i natur, cynnal a gwella rhywogaethau sydd o bwys unigryw i Sir Benfro, a gwella’r cysylltiadau yn y dirwedd rhwng cynefinoedd bywyd gwyllt. Yn galonogol, mae’r Awdurdod wedi derbyn niferoedd digynsail o ymholiadau gan ddarpar wirfoddolwyr sy’n dymuno helpu.
Mae’r Awdurdod wedi clustnodi nifer o Safleoedd allweddol o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA), ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA) ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro i ganolbwyntio ei ymdrechion. Mae llawer iawn eisoes wedi’i wneud dros y blynyddoedd, a bydd safleoedd lle mae gwaith wedi’i wneud yn flaenorol yn cael eu cynnal. Er y bydd nifer o swyddi a swyddi dan hyfforddiant newydd yn cael eu creu i helpu i gyflawni’r gwaith hwn, bydd rhan ganolog o’r gwaith yn golygu cynnig hyfforddiant cynhwysfawr i wirfoddolwyr ac i dirfeddianwyr fel y gellir rheoli cynefinoedd a monitro rhywogaethau yn y tymor hir mewn modd cynaliadwy. Nid dim ond diogelu ecosystemau hanfodol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yw hyn – mae tystiolaeth anecdotaidd o brosiectau blaenorol wedi dangos faint o wirfoddolwyr sy’n teimlo bod eu gwaith yn rhoi hwb i’w hymdeimlad o les, ac i rai, yn gymorth i’w hadferiad o heriau iechyd meddwl megis PTSD.
Bydd y timau yn canolbwyntio ar wella’r cysylltedd ecolegol ar draws y safleoedd gwarchodedig, megis arfordir calchfaen ACA De-orllewin Cymru, AGA arfordir Castellmartin, SoDdGA Maes Tanio Castellmartin, a SoDdGA Cors Castellmartin, sy’n enwog am eu glaswelltiroedd arfordirol cyfoethog, y rhostiroedd, y gwlyptiroedd a’r clogwyni. Mae’r rhain yn cynnal rhywogaethau gwarchodedig megis y morloi llwyd, adar y môr sy’n nythu, britheg y gors, a’r safleoedd hyn yw’r pwysicaf yn Sir Benfro am y gardwenynen feinlais.
Yng ngogledd Sir Benfro, byddwn yn gweithio yn ACA a SoDdGA Gweunydd Blaencleddau, SoDdGA Mynydd Preseli, SoDdGA Waun Fawr, Cas-mael, SoDdGA Carn Ingli, a SoDdGA Dyffryn Gwaun. Mae’r rhain wedi’u dynodi am eu cynefinoedd amlweddog o laswelltir corsiog, gweundir gwlyb, gorgorsydd a chymunedau tir gwlyb, sy’n cynnal poblogaethau sylweddol o fursennod y De a britheg y gors. Fodd bynnag, mae’r ardaloedd hyn yn dod yn anffafriol oherwydd diffyg pori a rhywogaethau estron goresgynnol. Er bod rhai ardaloedd yn cael eu hadfer drwy bori gwartheg heb goleri ffens, mae angen mwy o waith i greu seilwaith pori.
Hefyd bydd y gwaith yn cynnal momentwm y cynllun peilot Cysylltu’r Arfordir drwy barhau i weithio gyda thirfeddianwyr presennol i fonitro a gwella canlyniadau adfer cynefinoedd yn barhaus. Gan ehangu ar waith blaenorol, bydd y prosiect yn ymestyn y gwaith o reoli’r Rhywogaethau Estron Goresgynnol ac yn cynyddu’r cymorth i dirfeddianwyr allu gwneud mwy i adfer cynefinoedd a’r cysylltiadau rhyngddynt, gan gynnwys ardaloedd o gwmpas Tyddewi, SoDdGA Bae Waterwynch i Harbwr Saundersfoot, a Gogledd Sir Benfro.
Yn ogystal â’r enghreifftiau uchod, bydd yr Awdurdod yn canolbwyntio’r gwaith mewn meysydd eraill o ddiddordeb arbennig gan gynnwys mawndir, planhigion ac infertebratau prin ac anfynych, adar y môr sy’n nythu, pathewod, cennau, dyfrgwn a morloi llwyd. Mae effeithiau newid hinsawdd yn dod yn fwyfwy gweladwy ar draws ein safleoedd arfordirol a mewndirol. Mae tymheredd uwch, cyfnodau mwy sych a llai o law, a thywydd mwy eithafol yn fwy aml, yn peri risgiau sylweddol i wydnwch rhywogaethau gwarchodedig, megis y frân goesgoch a chynefinoedd sydd dan fygythiad. Mae’r gwaith monitro yn allweddol gan fod nifer o rywogaethau, megis y gwyfyn, yn ddangosyddion pwysig o iechyd y dirwedd ac effaith newid hinsawdd. Mae gwyfynod er enghraifft yn beillwyr nos ac yn ffynhonnell bwysig o fwyd i adar yr ardd ac i ystlumod. Mae’r prosiect peilot y Gwyfyn Godidog a gynhaliwyd tan ddiwedd haf 2025 hefyd wedi defnyddio technoleg AI newydd i helpu i glustnodi’r gwahanol rywogaethau, ac mae tirfeddianwyr wedi mwynhau bod yn rhan o’r prosiect. Gobaith y tîm yw adeiladu ar y llwyddiant cychwynnol hwn yr haf nesaf.
Yn Ardal Cadwraeth Arbennig y Preseli a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Carn Ingli, mae llosgi gormodol hanesyddol wedi cael effaith negyddol ar lystyfiant y gwlyptir a’r rhostir, ac mae rhedyn a glaswellt y gweunydd wedi cynyddu ar draul y rhostir. Mae’r ardaloedd hyn yn cynnal rhywogaethau sydd mewn perygl megis mursen y de, ond mae eu cyflwr presennol yn eu gadael yn agored i newidiadau pellach yn eu cynefin.
Mae tir preifat, a reolir ar gyfer bioamrywiaeth ar hyd a lled y Parc Cenedlaethol, yn golygu cysylltiadau hanfodol a cherrig camu i gryfhau rhwydwaith y Safleoedd Gwarchodedig. Drwy drosglwyddo sgiliau a gwybodaeth arbenigol i’r tirfeddianwyr yn y Parc Cenedlaethol a’u grymuso i ddeall a gwerthfawrogi nifer fwy o rywogaethau ar eu tir, y gobaith yw y byddant yn datblygu eu dealltwriaeth ecolegol a’u hysgogi i reoli cynefinoedd er budd y rhywogaethau y maent yn dod o hyd iddynt.
Drwy ymgysylltu â’r gymuned a gweithio gyda thirfeddianwyr, bydd y gwaith yn creu dulliau cynaliadwy a chydweithredol o adfer byd natur drwy glustnodi safleoedd, ac ategu’r gwaith o reoli a monitro canlyniadau. Gwaddol y prosiect fydd tirwedd iachach a mwy gwydn, a thîm cadwraeth cryfach sydd â’r sgiliau i warchod yr ecosystemau hanfodol hyn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae’r Gronfa Rhwydweithiau Natur yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i gweinyddu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.
