Gorfodi Cynllunio

Gorfodi cynllunio yw'r broses o ymchwilio i achosion posib o dor-rheolau cynllunio, a lle bo angen bydd camau'n cael eu cymryd i unioni unrhyw dor-rheol.

Tîm Rheoli Datblygu a Gorfodi Awdurdod y Parc Cenedlaethol sy’n ymdrin â materion gorfodi ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae dau Swyddog Gorfodi Cynllunio’n gyfrifol am faterion gorfodi dan gyfarwyddyd Arweinydd y Tîm Rheoli Datblygu.

Rhoi gwybod am achos o dorri rheolaeth gynllunio

Os gwyddoch am unrhyw waith diawdurdod sy’n cael ei wneud yn y Parc Cenedlaethol, neu am waith nad yw’n digwydd yn unol ag amodau neu gynlluniau cymeradwy, cofiwch roi gwybod i ni drwy adrodd unrhyw dor-rheol i dc@pembrokeshirecoast.org.uk neu lawrlwythiwch y Ffurflen Gwyno Ynglŷn â Gorfodaeth Cynllunio.

Rhoddir mwy o fanylion yn ein Polisi Gorfodaeth a Chydfurfiaeth Cynllunio.