Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi eich busnes a’r diwydiant twristiaeth, felly rydyn ni wedi cadw’r un cyfraddau hysbysebu â’r llynedd. Bydd eich hysbyseb yn cael ei gweld gan dros filiwn o bobl leol ac ymwelwyr dros y tymor, gydag O Lan i Lan yn cael ei ddosbarthu ym mhob rhan o’r sir am chwe mis rhwng mis Ebrill a mis Medi.
Mae’r rhifyn yn llawn dop ac yn hyrwyddo busnesau lleol ochr yn ochr â sut i fwynhau Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae wedi’i argraffu o ansawdd uchel, sy’n helpu i sicrhau bod eich cynnyrch neu wasanaeth yn cael y sylw gorau posib ac yn creu effaith barhaol.
Sut mae hysbysebu yn O Lan i Lan 2027
Disgwylir y bydd y galw am le yn rhifyn 2027 yn uchel a chyntaf i’r felin fydd hi.
Mae manylion llawn y categorïau hysbysebu ar gael ar ail dudalen Pecyn Hysbysebu O Lan i Lan 2027, sydd ar gael i’w lawrlwytho o ochr dde’r dudalen hon.
Mae dau brif fath o hysbyseb:
- Hysbysebion mân – testun yn unig
- Hysbysebion arddangos – bocsys mwy o faint
Os oes angen help arnoch i ddylunio eich hysbyseb arddangos, cysylltwch â thîm Marchnata O Lan i Lan i gael manylion ein gwasanaeth dylunio. Codir tâl.
Os hoffech roi eich hysbyseb arddangos mewn man penodol yn y papur, gallwch hefyd ddewis yr opsiwn Lle Sicr. Mae rhagor o fanylion ar gael ar dudalen 5 o’r Pecyn Hysbysebu.
I archebu eich gofod hysbysebu, lawrlwythwch a llenwch y Ffurflen Hysbyseb Arddangos neu’r Ffurflen Hysbyseb Mân perthnasol, yn ogystal ag unrhyw wybodaeth sydd ei hangen yn y Pecyn Hysbysebu. Mae’r holl ddogfennau i’w gweld ar ochr dde’r dudalen hon.
Dylid anfon ffurflenni wedi’u llenwi i communications@pembrokeshirecoast.org.uk
Rydyn ni’n ffafrio BACS, ac yna taliad â cherdyn fel dulliau talu. Os nad yw’n bosib talu’n ddigidol, dylech anfon ffurflenni a thaliadau drwy’r post.
Dylai ffurflenni, taliadau a gwaith celf ddod i law erbyn dydd Gwener 8 Ionawr 2027.
I drafod eich gofynion hysbysebu, e-bostiwch communications@pembrokeshirecoast.org.uk neu ffoniwch 01646 624823.
Edrychwn ymlaen at eich helpu i hyrwyddo eich busnes yn O Lan i Lan 2027.