Cefndir
Ar 1 Ionawr 2026, cyflwynodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro Gyfarwyddyd Erthygl 4(1) sy’n dileu hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer gweithredu gwersylloedd dros dro o hyd at 28 diwrnod yn y Parc Cenedlaethol. Roedd hyn yn dilyn ymchwil ac ymgynghoriad helaeth.
Ochr yn ochr â hyn, yn 2025, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar ystod o newidiadau posibl i hawliau datblygu a ganiateir ledled Cymru, gan gynnwys hawliau sy’n ymwneud â gwersylla. Byddai’r cynnig gwreiddiol wedi ymestyn hawliau datblygu a ganiateir ledled Cymru o 28 i 60 diwrnod ym mhob lleoliad, ochr yn ochr â chyflwyno gweithdrefn newydd mewn perthynas â Hysbysiad Ymlaen Llaw.
Ymatebodd yr Awdurdod, ynghyd ag ystod o sefydliadau eraill, i’r ymgynghoriad. O ganlyniad i’r adborth hwn, diwygiodd Llywodraeth Cymru ei chynigion ar gyfer Hawliau Datblygu a Ganiateir mewn Parciau Cenedlaethol, gan gadw’r cyfyngiad presennol o 28 diwrnod yn y lleoliadau hyn.
Beth sydd wedi newid
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno hawliau datblygu a ganiateir newydd ar gyfer gwersylloedd hamdden dros dro a daethant i rym ar 1 Mehefin 2026 drwy Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2026.
Gan fod hon yn hawl newydd o ran datblygu a ganiateir, mae’n newid y modd y mae Cyfarwyddyd Erthygl 4(1) presennol yr Awdurdod yn gweithredu, gan ei gwneud yn ofynnol i dirfeddianwyr sy’n dymuno gweithredu gwersyll dros dro ddilyn y weithdrefn newydd o ran Hysbysiad Ymlaen Llaw.
O dan y Dosbarth BA newydd:
- Gall gwersylloedd dros dro mewn Parciau Cenedlaethol, Tirweddau Cenedlaethol a Safleoedd Treftadaeth y Byd weithredu am hyd at 28 diwrnod, ar yr amod bod Hysbysiad Ymlaen Llaw yn cael ei gyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol.
- Mewn mannau eraill yng Nghymru, y terfyn yw 60 diwrnod, a hynny hefyd yn amodol ar Hysbysiad Ymlaen Llaw.
Sylwer os gwelwch yn dda: Mae’r hawl newydd o ran datblygiad a ganiateir yn caniatáu i gartrefi modur (gan gynnwys faniau gwersylla a faniau wedi’u dylunio neu eu haddasu i bobl breswylio ynddynt) gael eu defnyddio fel rhan o wersyll dros dro sy’n gweithredu o dan Ddosbarth BA. Nid yw’n caniatáu lleoli carafanau teithiol, carafanau statig na chartrefi symudol. Mae Cyfarwyddyd Erthygl 4(1) yr Awdurdod yn parhau i ddileu hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer carafanau a chartrefi symudol y tu allan i gwmpas Dosbarth BA. O ganlyniad, bydd angen caniatâd cynllunio o hyd ar gyfer lleoli’r rhain yn y Parc Cenedlaethol.
Y Cyfnod Pontio
Mae cyfnod pontio ar waith ar hyd a lled Cymru. Ni fydd angen hysbysiad ymlaen llaw mewn rhannau eraill o Gymru tan 1 Medi 2026, gyda hynny’n rhoi amser i dirfeddianwyr addasu.
Fodd bynnag, ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae Cyfarwyddyd Erthygl 4(1) yr Awdurdod yn parhau i fod mewn grym ar gyfer gwersylla drwy gydol y cyfnod pontio hwn. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i dirfeddianwyr yn yr ardal hon geisio Hysbysiad Ymlaen llaw gan yr Awdurdod rŵan, serch y trefniadau trosiannol cenedlaethol hyn.
Pryd fydd ddim angen cais cynllunio llawn?
Wrth geisio Hysbysiad Ymlaen Llaw am 28 diwrnod gan yr Awdurdod, ni fydd angen cais cynllunio llawn os bodlonir y meini prawf canlynol:
Nid yw eich safle:
(a) ar safle heneb gofrestredig;
(b) mewn ardal gadwraeth arbennig;
(c) mewn ardal ble mae perygl i ddiogelwch;
(d) mewn man storio ffrwydron milwrol;
(d) ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig;
(f) ar safle Ramsar;
(g) ar safle adeilad rhestredig;
(f) mewn ardal warchodaeth arbennig;
(i) o fewn Parthau Llifogydd 2 neu 3;
(j) o fewn 100 metr i annedd warchodedig, ac eithrio i’w defnyddio fel ffordd breifat; neu
(k) a ddefnyddir i leoli unrhyw garafan, ac eithrio un a ddefnyddir fel cerbyd modur a gynlluniwyd neu a addaswyd i bobl breswylio ynddo.
Pethau eraill y bydd yr Awdurdod yn eu hystyried
Pan fyddwn yn derbyn eich ffurflen Hysbysiad Ymlaen Llaw, byddwn hefyd yn ystyried:
(i) trefniadau ar gyfer cyfleusterau toiled a dŵr gwastraff;
(ii) trefniadau ar gyfer cyfleusterau gwaredu gwastraff; ac
(iii) y modd y bwriedir i gerbydau gael mynediad i safle’r datblygiad
Os oes gennym bryderon am unrhyw un o’r tri mater uchod, efallai y bydd angen cymeradwyaeth ymlaen llaw arnom. Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi gyflwyno rhagor o wybodaeth er mwyn i ni allu penderfynu a oes angen cais cynllunio llawn. Efallai y byddwn yn rhoi cymeradwyaeth ymlaen llaw yn ddiamod neu yn ddarostyngedig i amodau sy’n rhesymol gysylltiedig â’r mater dan sylw.
Rhaid i unrhyw un sy’n defnyddio’r hawl datblygu a ganiateir hon hysbysu’r Awdurdod Cynllunio Lleol.
Sut i gyflwyno cais
Mae’r ffurflen Hysbysiad Ymlaen Llaw ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru: https://www.gov.wales/determination-whether-prior-approval-required-temporary-recreational-campsite
Ar ôl eu cwblhau, dylid cyflwyno ffurflenni i’n Tîm Rheoli Datblygu yn: dc@pembrokeshirecoast.org.uk
Ar hyn o bryd, nid oes ffi gynllunio ar gyfer y broses hon
Gyda’ch ffurflen Hysbysiad Ymlaen Llaw, dylech amgáu’r isod:
- Cynllun Lleoliad Safle, gyda’r cae gwersylla neu’r ardal ar gyfer gwersylla wedi’u hamlinellu mewn COCH
- Y dyddiadau y bydd y safle’n cael ei ddefnyddio
- Lleoliad y lleiniau gwersylla a’r mwynderau
- Cyfleusterau toiled a dŵr gwastraff
- Cyfleusterau gwaredu gwastraff
- Manylion ynghylch mynediad o’r briffordd
Mae’n ofynnol i’r Awdurdod ymateb o fewn 28 diwrnod ar ôl derbyn yr Hysbysiad Ymlaen Llaw.
I gael gwybodaeth fanylach am y newidiadau hyn, cyfeiriwch at Nodyn Canllawiau Llywodraeth Cymru: Hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer gwersylloedd dros dro
