Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro yn diolch i Sefydliad Blakemore am eu cynorthwyo i brynu offer allweddol i dacluso traethau

Posted On : 29/04/2026

Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro wedi diolch i Sefydliad Blakemore am eu haelioni wrth brynu offer casglu sbwriel a fydd yn rhoi hwb i’r ymdrechion i ddiogelu arfordir trawiadol y sir. Bydd yr offer newydd yn cefnogi’r digwyddiadau tacluso traethau y mae’r ymddiriedolaeth yn eu trefnu’n rheolaidd ledled Arfordir Penfro, gan helpu’r rhai sy’n cymryd rhan i gael gwared ar sbwriel peryglus oddi ar ein traethau hardd.

Dywedodd Abi Marriot, Swyddog Cyllido’r Ymddiriedolaeth: “Rydym ni’n hynod ddiolchgar i Sefydliad Blakemore am eu cefnogaeth. Mae eu cyfraniad yn ein galluogi ni i sicrhau bod gan ein cyfranogwyr yr holl offer sydd eu hangen arnynt, gan wneud pob digwyddiad tacluso yn fwy effeithiol. Mae’n hwb gwirioneddol i’n hymdrechion cadwraeth ar yr arfordir.

“Mae ein digwyddiadau tacluso traethau i fusnesau wedi bod yn boblogaidd iawn yn ddiweddar. Mae’r digwyddiadau hyn yn rhoi seibiant o’r swyddfa i dimau, cyfle i gydweithio mewn amgylchedd gwahanol, ac yn ffordd ystyrlon i ddangos bod eu sefydliad wedi ymrwymo i gynaliadwyedd. Mae sawl cwmni wedi dweud wrthym ni fod cymryd rhan wedi cryfhau’r ymdeimlad o berthynas o fewn eu tîm, ac wedi rhoi cyfle iddynt gyfrannu at weithgaredd amgylcheddol gweledol a chadarnhaol

Mae’r ymddiriedolaeth yn edrych ymlaen at ddefnyddio’r offer newydd yn y digwyddiad Tacluso Traethau nesaf i Fusnesau Sir Benfro, ac yn awyddus i wahodd sefydliadau lleol i gymryd rhan. Bydd treulio’r bore yn un o draethau mwyaf eiconig y sir yn gyfle i greu cysylltiadau â sefydliadau lleol eraill, a hyrwyddo dyfodol glanach a gwyrddach i Sir Benfro.

Croesewir awgrymiadau a syniadau ar gyfer y digwyddiad yn yr hydref, wrth i’r Ymddiriedolaeth fynd ati i gynllunio ei meysydd ffocws nesaf.

Bydd y Digwyddiad Tacluso Traethau i Fusnesau Sir Benfro yn cael ei gynnal rhwng 10am a hanner dydd ddydd Iau 4 Mehefin yn Freshwater West. Mae’n rhaid i chi archebu eich lle, felly cysylltwch ag Abi i wneud hynny drwy anfon e-bost at abim@arfordirpenfro.org.uk neu ffonio 07773 788 196. Rydym yn gwahodd busnesau i archebu eu lle ac i helpu i warchod y darn eiconig hwn o’r arfordir.