Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro yn cael gwerth £19,800 o gyllid tuag at y 1000 Diwrnod Cyntaf
Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro yn falch iawn o gyhoeddi bod £19,800 wedi’i ddyfarnu i’r 1000 Diwrnod Cyntaf gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Bydd hyn yn galluogi i’r rhaglen chwarae awyr agored ar gyfer y blynyddoedd cynnar barhau i gefnogi teuluoedd yn Sir Benfro o fis Medi 2026 hyd at ddiwedd Mawrth 2027.
Mae’r 1000 Diwrnod Cyntaf, sy’n cael ei ddarparu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn darparu sesiynau strwythuredig sy’n seiliedig ar natur a chwarae ar gyfer plant bach a’u rhieni neu ofalwyr.
Mae’r rhaglen yn cynnig amgylchedd awyr agored cynhwysol lle gall plant chwarae, archwilio a dysgu ar eu cyflymder eu hunain. Mae teuluoedd wedi dweud wrthym faint mae’r sesiynau hyn wedi helpu i fagu hyder, lleihau unigrwydd a rhoi cyfle iddynt fwynhau amser yn yr awyr agored gyda’i gilydd.
Ers i’r 1000 Diwrnod Cyntaf ddechrau yn 2022, mae teuluoedd wedi tynnu sylw’n gyson at y gwahaniaeth cadarnhaol y mae’r rhaglen yn ei wneud i’w llesiant ac i ddatblygiad eu plant.
Mae’r cyllid newydd hwn gan y Loteri Genedlaethol yn newyddion gwych i’r rhaglen a’r teuluoedd sy’n elwa ohoni. Bydd yn caniatáu i’r 1000 Diwrnod Cyntaf barhau o fis Medi 2026 tan fis Mawrth 2027, gan adeiladu ar y profiad a’r hyn rydym wedi ei ddysgu o’r blynyddoedd blaenorol a pharhau i ddarparu cyfleoedd awyr agored gwerthfawr i deuluoedd ledled Sir Benfro.
Dywedodd Kelly Davies, Gweithiwr Chwarae Awyr Agored y 1000 Diwrnod Cyntaf: “Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at allu parhau â’r 1000 Diwrnod Cyntaf a chroesawu teuluoedd yn ôl ar gyfer tymor arall o’r rhaglen. Mae’r sesiynau’n rhoi cyfle i ni dreulio amser yn yr awyr agored gyda phlant a’u rhieni a’u gofalwyr, gan ddefnyddio natur a gweithgareddau chwarae i gefnogi datblygiad, hyder a llesiant plant.
“Mae pob sesiwn yn wahanol, ac rydyn ni’n dilyn diddordebau ac anghenion y plant, gan roi amser a lle iddyn nhw archwilio ar eu cyflymder eu hunain. Mae’n braf gweld plant yn dod yn fwy hyderus, yn rhoi cynnig ar bethau newydd ac yn mwynhau bod yn yr awyr agored, tra bod rhieni a gofalwyr hefyd yn cael cyfle i gysylltu ag eraill a rhannu eu profiadau.
“Mae’r cyllid hwn yn golygu y gallwn barhau i gyflwyno’r sesiynau hyn a pharhau i adeiladu ar y perthnasoedd rydyn ni wedi’u datblygu gyda theuluoedd dros y blynyddoedd. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau ar y cam nesaf ym mis Medi.”
Mae’r Ymddiriedolaeth yn dal i chwilio am gyllid tymor hir i sicrhau dyfodol y 1000 Diwrnod Cyntaf y tu hwnt i fis Mawrth 2027. Mae cael y cyllid newydd hwn yn rhoi sefydlogrwydd gwerthfawr i ni ac yn ein galluogi i gynnal y sesiynau a dangos effaith y rhaglen am dymor arall, tra bo’r Ymddiriedolaeth yn gweithio i greu dyfodol cynaliadwy i’r rhaglen.
Hoffai Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro ddiolch i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am eu cefnogaeth.
Mae’r Ymddiriedolaeth wedi ymrwymo o hyd i sicrhau bod pob plentyn – beth bynnag fo’i anghenion, ei allu neu ei god post – yn cael cyfle i ffynnu ym myd natur yn ystod ei flynyddoedd cynharaf.
Bydd tymor nesaf y 1000 Diwrnod Cyntaf yn cael ei redeg rhwng Medi 2026 – Mawrth 2027, a bydd rhagor o wybodaeth am y rhaglen a’r gweithgareddau sydd ar y gweill i ddilyn.
