Tan gwyllt wedi’i osgoi o drwch blewyn ger Bryniau Preseli

Posted On : 29/07/2026

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn atgoffa pobl o’r risg ddifrifol o danau gwyllt yn dilyn digwyddiad ger Bryniau Preseli yn ystod y cyfnod presennol o dywydd poeth a sych.

Brynhawn Mawrth, cafodd Parcmyn Awdurdod y Parc Cenedlaethol wybod am fwg yn codi o’r bryniau ger Tŷ Canol, coetir hynafol a Gwarchodfa Natur Genedlaethol.

Ar ôl cael disgrifiad clir o’r lleoliad, teithiodd y Parcmyn i Garnedd Meibion Owen, lle gwelsant fod un o’r brigiadau creigiog yn llosgi. Gan fod y tân wedi ymledu’n ddwfn i’r mawn, penderfynwyd cysylltu â’r Gwasanaeth Tân ac Achub. Mae’r tân wedi’i ddiffodd yn llwyr erbyn hyn.

Credir iddo ddeillio o dân yn yr awyr agored yn yr ardal. Roedd criwiau tân wedi delio â’r tân yn flaenorol ac wedi’i ddiffodd, ond roedd wedi ailddechrau oherwydd y tir eithriadol o sych a’r tywydd poeth parhaus.

Er bod y digwyddiad wedi dod o dan reolaeth, gallai’r tân fod wedi lledaenu’n hawdd ac achosi difrod sylweddol i’r dirwedd gyfagos, i fywyd gwyllt ac i gynefinoedd sy’n bwysig yn rhyngwladol.

Gyda rhagolygon pellach o dywydd poeth a sych, a thanau gwyllt yn digwydd mewn rhannau eraill o’r wlad, mae’r digwyddiad yn ffordd bwysig o’n hatgoffa bod cynnau tanau yng nghefn gwlad yn peri risg ddifrifol.

Anogir pobl i beidio â chynnau tân yn yr awyr agored, barbeciw, nac unrhyw fflamau agored eraill yn y Parc Cenedlaethol. Ni ddylid defnyddio tân gwyllt na llusernau awyr chwaith, gan y gall hyd yn oed gwreichionen fach danio llystyfiant sych neu fawn a datblygu’n danau gwyllt sy’n symud yn gyflym.

Gall ymwelwyr helpu i ddiogelu’r Parc Cenedlaethol drwy fynd â’r holl sbwriel adref, cael gwared ar sigarennau’n ddiogel a rhoi gwybod am unrhyw arwyddion o dân ar unwaith drwy ffonio 999.

Hoffai Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ddiolch i Orsaf Dân Abergwaun a’i chriwiau am eu cymorth cyflym i reoli’r digwyddiad.