Camwch i’r cysgodion yng Nghastell Caeriw yr hanner tymor hwn
Bydd Castell Caeriw yn datgelu ei ochr dywyllach yr hanner tymor hwn, wrth i ystafelloedd cyfarwydd a chorneli cudd gael eu trawsnewid gan straeon ysbrydion, cyfarfyddiadau iasol ac wythnos o anturiaethau Calan Gaeaf i bob oedran.
Bydd y rhaglen naw diwrnod, rhwng dydd Sadwrn 24 Hydref a dydd Sul 1 Tachwedd, yn dod ag awyrgylch Calan Gaeaf i bob cwr o’r Castell a’r Felin Heli, gyda gweithgareddau hwyliog i deuluoedd â phlant iau a phrofiadau mwy iasol i’r rhai sy’n hoffi ychydig o wefr yn ystod yr hanner tymor.
Drwy gydol yr hanner tymor, bydd llu o fwganod brain direidus yn meddiannu’r Castell, wedi’u cuddio mewn corneli a lleoedd annisgwyl ar hyd Llwybr Bwganod Brain Arswydus, y gall ymwelwyr ei ddilyn ar eu liwt eu hunain. Bydd rhai’n ddoniol, rhai’n arswydus, rhai’n enwog ac ambell un yn ddigon i godi gwrychyn. Yr her i deuluoedd fydd dod o hyd i bob un ohonynt a darganfod gwobr ddirgel.
Ar ochr arall y dŵr, bydd y Felin Heli hefyd yn cael ei gweddnewid ar gyfer Calan Gaeaf, wrth i Y Felin Felltigedig: Profiad o Dŷ Arswyd! ddychwelyd. Bydd ymwelwyr yn cael crwydro drwy’r adeilad tywyll a darganfod beth allai fod yn llechu yn y cysgodion. Mae’r profiad wedi’i gynnwys ym mhris mynediad arferol.
Bydd sesiynau adrodd straeon byw yn ganolbwynt i’r rhaglen o ddydd Sul 25 tan ddydd Mawrth 27 Hydref, wrth i Oliver McNeil o The Storymaster’s Tales ddod â Castell y Gwaed i Gaeriw. Gan gyfuno ffantasi, perfformio a chyfranogiad y gynulleidfa, bydd y sioe awr o hyd yn rhoi cyfle i deuluoedd ddylanwadu ar hynt yr antur, gyda phob dewis yn helpu i lunio datblygiad y stori.
Bydd y perfformiadau’n dechrau am 1pm ac yn addas i bawb o chwech oed ymlaen, gan gynnwys oedolion. Mae tocynnau’n costio £8 y pen, a rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn sydd wedi talu. Argymhellir yn gryf archebu ymlaen llaw drwy www.storymasterstales.com/live, a bydd prisiau mynediad arferol y Castell hefyd yn berthnasol.
Wrth i olau dydd bylu, bydd y sylw’n troi at rai o straeon mwy iasol Caeriw, gyda Theithiau Galan Gaeaf Frawychus i’r Teulu yn cael eu cynnal o ddydd Mawrth 27 tan ddydd Gwener 30 Hydref. Bydd ymwelwyr yn dilyn taith dywys drwy’r Castell, gan glywed hanesion am ysbrydion a welwyd a chyfarfyddiadau dirgel sy’n gysylltiedig â’r safle hanesyddol. Cadwch eich llygaid ar agor ar hyd y ffordd – efallai nad ydych ar eich pen eich hun wedi’r cyfan.
Bydd y teithiau’n cael eu cynnal rhwng 4.30pm a 5.30pm, ac yn costio £9 i oedolion a £7 i blant pump oed a hŷn. Mae’n hanfodol archebu ymlaen llaw drwy www.castellcaeriw.com. Cynghorir ymwelwyr i wisgo dillad cynnes sy’n dal dŵr, dod â thortsh a chyrraedd 10 munud cyn dechrau’r daith.
Bydd cyfle i ymwelwyr iau fwynhau ychydig o hud a lledrith ddydd Mercher 28 a dydd Iau 29 Hydref, pan fydd gwrach gyfeillgar Caeriw yn ymgartrefu wrth y tân ar gyfer gweithdai adrodd straeon arbennig Room on the Broom. Bydd stori boblogaidd Julia Donaldson yn dod yn fyw drwy ddefnyddio propiau ac adrodd straeon bywiog, cyn i’r plant greu eu ffyn hud eu hunain, cymysgu diod hud a rhoi cynnig ar fwrw swyn.
Bydd y sesiynau awr o hyd yn cael eu cynnal am 11am a 2pm, ac fe’u hargymhellir ar gyfer plant rhwng pedair ac wyth oed. Mae tocynnau’n costio £5 y plentyn, yn ychwanegol at bris mynediad arferol y Castell, ac mae’n hanfodol archebu ymlaen llaw drwy www.castellcaeriw.com. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.
Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell Caeriw: “Mae digwyddiadau Calan Gaeaf yn cael effaith wahanol pan fyddant yn cael eu cynnal mewn lleoliad sydd â chanrifoedd o hanes y tu ôl iddo. Mae antur ffantasi mewn Castell canoloesol, Melin Heli felltigedig, a straeon ysbrydion yn y tywyllwch i gyd yn teimlo ychydig yn fwy credadwy yng Nghaeriw. Edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr o bob oed i dreulio diwrnod cyfan yma, ac efallai aros yn ddigon hir i weld Caeriw yn newid wrth i olau dydd ddechrau pylu.”
Bydd Castell Caeriw ar agor bob dydd rhwng 10am a 4.30pm drwy gydol yr hanner tymor, gydag Ystafell De Nest ar agor rhwng 10.30am a 4pm a’r Felin Heli rhwng 11am a 5pm. Caniateir mynediad hyd at 30 munud cyn yr amser cau. I gael manylion llawn am y digwyddiadau, gwybodaeth am hygyrchedd ac i archebu, ewch i www.castellcaeriw.com.