Sioe Geir Castell Caeriw yn dychwelyd ar gyfer Gŵyl Banc Mis Mai

Posted On : 24/04/2026

Bydd un o uchafbwyntiau y calendr digwyddiadau lleol yn dychwelyd y gwanwyn hwn. Mae'r paratoadau wedi dechrau yng Nghastell Caeriw ar gyfer y Sioe Geir sy’n cael ei chynnal yn flynyddol yno. Eleni bydd y sioe yn cael ei chynnal ddydd Llun 4 Mai, rhwng 10am a 3pm.

Bydd y sioe boblogaidd, sy’n cael ei chynnal ar safle drawiadol y Castell, yn dod ag arddangosfa ardderchog o geir, beiciau modur a cherbydau milwrol o bob rhan o dde Cymru at ei gilydd. Mae’r sioe, sy’n ffefryn mawr ymysg ymwelwyr bob blwyddyn, yn gyfle gwych i bobl sy’n ymddiddori mewn cerbydau a’u teuluoedd fwynhau diwrnod allan gwych mewn lleoliad hanesyddol unigryw.

Ochr yn ochr â’r arddangosfeydd cerbydau, gall ymwelwyr fwynhau cerddoriaeth fyw drwy gydol y dydd gan y band gwerin lleol Razor Bill, yn ogystal â ffair hwyliog fach gydag Atyniadau Sir Benfro, gan ychwanegu at yr awyrgylch sy’n addas i deuluoedd.

Bydd bwyd a diod ar gael drwy gydol y dydd hefyd. Bydd Ystafell De Nest ar agor ac yn gweini cinio ysgafn, cacennau cartref a choffi gwych, a bydd rholiau cig moch ffres ar werth yn yr Ardd Furiog.

Yn ogystal â’r Sioe Geir, gall teuluoedd hefyd gymryd rhan yng Nghyrch y Teithiwr Amser, sef helfa drysor newydd sy’n cael ei chynnal bob dydd o ddydd Sadwrn 2 Mai ymlaen rhwng 10am a 4pm.

Mae’r gweithgaredd hunan-arweiniol hwn yn gwahodd plant a theuluoedd i gamu’n ôl i’r gorffennol a chychwyn ar antur drwy’r oesoedd, gan deithio o’r Oes Haearn i’r Oesoedd Canol ac Oes Elisabeth, a hyd yn oed i’r Ail Ryfel Byd. Gan ddefnyddio ffôn clyfar, gall cyfranogwyr ddatgelu’r cyfrinachau sydd wedi’u cuddio yn waliau hynafol Castell Caeriw mewn taith ryngweithiol drwy hanes.

Mae’r helfa drysor yn costio £2.50 y plentyn, a chodir y tâl mynediad arferol. Mae’r gweithgaredd yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg) ac mae’n cynnwys mynediad gyda grisiau.

Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell Caeriw: “Mae’r Sioe Geir wastad yn un o’r digwyddiadau mwyaf poblogaidd yn ein calendr. Mae’n dod â chymysgedd gwych o dreftadaeth, cymuned a hwyl i’r teulu at ei gilydd, ac mae awyrgylch gwych ar y diwrnod bob amser. Gyda cherddoriaeth fyw, ffair a digon i’w fwynhau o amgylch y safle, mae’n argoeli i fod yn ddiwrnod Gŵyl y Banc gwych.” Does dim angen archebu lle o flaen llaw.

Mae’r digwyddiad yn dibynnu ar y tywydd, ac efallai y bydd angen ei ohirio os bydd yr amgylchiadau’n wael. I gael y newyddion diweddaraf, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/castell-caeriw/ neu dilynwch Gastell a Melin Heli Caeriw ar Facebook.

Dilynwch y ddolen hon i gael gwybodaeth am y digwyddiadau eraill sy’n cael eu cynnal ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro www.pembrokeshirecoast.com/events.