Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i gael ei urddo i’r Orsedd

Posted On : 13/05/2026

Mae Tegryn Jones, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, wedi cael ei enwi ymhlith y rhai i’w hurddo i’r Orsedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Mae’r anrhydedd yn cydnabod unigolion o bob cwr o Gymru am eu llwyddiannau a’u cyfraniad i’r genedl, i’r Gymraeg ac i gymunedau lleol. Bydd Tegryn yn cael ei urddo yn y Wisg Las, a ddyfernir i’r rhai sydd wedi rhoi gwasanaeth nodedig mewn meysydd sy’n cynnwys bywyd cyhoeddus, gweithgarwch lleol a chenedlaethol, newyddiaduraeth, y cyfryngau, chwaraeon, gwyddoniaeth a’r gyfraith.

Daw Tegryn o Lanbedr Pont Steffan yn wreiddiol, ac mae wedi chwarae rhan amlwg ym mywyd cyhoeddus Cymru gyda gyrfa’n cynnwys arweinyddiaeth amgylcheddol, addysgol a chymunedol. Cyn ymuno ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, bu’n Brif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus a bu hefyd yn gweithio i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru.

Cafodd ei enwebu am ei waith ym maes addysg, gwaith ieuenctid a’r amgylchedd ac am ddatblygu mentrau amgylcheddol ar lefel leol a chenedlaethol.

Yn Sir Benfro, mae ganddo gysylltiad agos hefyd â datblygu addysg Gymraeg drwy ei gysylltiad hir ag Ysgol Caer Elen yn Hwlffordd lle bu’n Gadeirydd cyntaf y Corff Llywodraethwyr.

Dywedodd Tegryn: “Anrhydedd fawr yw cael fy urddo i’r Orsedd, yn enwedig gan fod yr Eisteddfod Genedlaethol yn dychwelyd i Sir Benfro eleni ar gyfer Eisteddfod y Garreg Las. Mae’r Gymraeg yn perthyn i’n holl gymunedau, ac rwyf wedi bod yn ffodus iawn i weithio gyda chynifer o bobl sy’n poeni’n fawr am ei dyfodol, boed hynny drwy addysg, diwylliant, yr amgylchedd neu wasanaeth cyhoeddus.

“Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn un o drysorau Cymru ac mae’n darparu tirwedd eithriadol sy’n cyfrannu at y nodau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd sy’n hanfodol i ddyfodol Cymru. Rwy’n ffodus iawn i arwain Awdurdod y Parc Cenedlaethol ac rwy’n hynod falch fod yr Orsedd wedi cydnabod y gwaith hwn.”

Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, sef Eisteddfod y Garreg Las, yn Llantwd, Gogledd Sir Benfro, rhwng 1af a’r 8fed o Awst 2026. Bydd y digwyddiad yn arbennig o arwyddocaol gan ei fod yn nodi 850 o flynyddoedd ers cynnal yr Eisteddfod gyntaf yn Aberteifi yn 1176, dafliad carreg dros yr afon o’r Maes eleni.

Mae rhagor o wybodaeth am Eisteddfod y Garreg Las a’r Orsedd ar gael yn https://eisteddfod.cymru.