Oriel y Parc yn datgelu holl gyfrinachau gwyllt yr arfordir ym mis Mai eleni
Dros hanner tymor mis Mai eleni, bydd Canolfan Ddarganfod y Parc Cenedlaethol yn Nhyddewi yn fwrlwm o adar a chreadigrwydd, a bydd pob math o gyfleoedd i ddarganfod rhagor am yr arfordir, wrth i deuluoedd gael gwahoddiad i fwynhau rhaglen fywiog o ddigwyddiadau sydd wedi’u hysbrydoli gan dirwedd Sir Benfro.
Yn ystod yr wythnos o wyliau, bydd Llwybr Adar a Chân yn mynd drwy goedwig, iard a thir y Ganolfan, gan roi cyfle i anturwyr bach chwilio am nythod cudd. Byddwn hefyd yn cynnal dwy sesiwn alw heibio Gwnewch ac Ewch ddydd Mercher 27 Mai a ddydd Iau 28 Mai. Yn y sesiwn gyntaf bydd y plant yn cael cyfle i fod yn greadigol drwy greu darnau celf ar thema’r goedwig i’w rhoi yn y ffenestr ac yn yr ail sesiwn byddan nhw’n creu adar y môr allan o glai.
Uchafbwynt yr wythnos fydd y Diwrnod Darganfod Adar y Môr ddydd Iau 28 Mai, a fydd yn dod â bywyd gwyllt amrywiol Arfordir Penfro i Oriel y Parc gyda sgyrsiau gan arbenigwyr, arddangosfeydd, teithiau tywys a chyfleoedd i’r teulu oll gael darganfod.
Bydd marchnad yn cael ei chynnal yn yr iard rhwng 10am a 3pm, yn ogystal â chyfres o ddigwyddiadau dan arweiniad arbenigwyr. Bydd Greg Morgan, Triniwr Cŵn Canfod RSPB Cymru ar brosiect Bioddiogelwch Cymru, yn sgwrsio am waith y cŵn arbennig hyn yn gwarchod ynysoedd adar y môr Cymru, ac yna bydd Jinx, y ci canfod bioddiogelwch, yn dangos ei ddoniau.
Bydd y Diwrnod Darganfod hefyd yn cynnwys taith dywys o Gaerfai i Santes Non, a sgwrs dan arweiniad Libby, un o barcmyn Awdurdod y Parc Cenedlaethol a chyn-barcmon ar Ynys Adar y Môr, a bydd Chris, parcmon arall gydag Awdurdod y Parc Cenedlaethol a chyn-warden ar Ynys Sgomer, yn rhoi cipolwg i chi ar fywyd ar yr ynys, y poblogaethau adar y môr sy’n bwysig yn rhyngwladol sy’n byw yno, a’r heriau maen nhw’n eu hwynebu o ganlyniadau i newid yn yr hinsawdd.
Wrth iddi nosi, byddwn yn troi ein sylw at ryfeddodau mewndirol gyda thaith Ystlumod Ysblennydd Tyddewi.
Cofiwch mai dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael ar gyfer rhai o ddigwyddiadau Diwrnod Darganfod Adar y Môr, ac felly mae’n rhaid cadw lle ymlaen llaw. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: www.orielyparc.co.uk
Yn ogystal â’r holl ddigwyddiadau hyn, gall ymwelwyr hefyd fwynhau amrywiaeth o arddangosfeydd, gan gynnwys arddangosfa Môrwelion Garry Fabian Miller, paentiadau newydd o Arfordir Penfro gan Dafydd Wyn Richards, a gweithiau Jo Thomas o Grefftwyr Sir Benfro, sydd wedi’u hysbrydoli gan yr ardal leol.
Yn y Tŵr, bydd arddangosfa Jackie Morris ac Elly Morgan, Dathlu Drygioni’r Ydfrain, yn tynnu sylw at alwadau a chymeriad yr Ydfrain ger Oriel y Parc, gyda phaentiadau a cherameg wedi’u hysbrydoli gan yr adar sy’n ymgynnull yn y coed cyfagos.
Mae rhaglen yr hanner tymor yn rhoi digon o amser i grwydro drwy’r ddwy farchnad a gynhelir yn yr iard, sy’n dod â stondinwyr lleol at ei gilydd i arddangos amrywiaeth o grefftau a chynnyrch wedi’u gwneud â llaw. Bydd y digwyddiad poblogaidd, Makers Bizarre yn dychwelyd ddydd Mawrth 26 Mai, a bydd Marchnad Grefftau mis Mai yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 30 Mai, a bydd mynediad am ddim i’r ddau.
Dywedodd Rachel Perkins, Rheolwr Oriel y Parc: “Mae rhywbeth newydd i’w ddarganfod bob amser yn nhirwedd Sir Benfro. Fis Mai eleni, byddwn ni’n edrych yn fanylach ar yr arfordir er mwyn dysgu rhagor am y gwaith hanfodol a’r holl gyfrinachau gwyllt sy’n gwneud y Parc Cenedlaethol hwn yn unigryw. Dyma gyfle i weld yr amgylchedd arbennig hwn o’r newydd, gan ddysgu am y cŵn sy’n gwarchod ein hynysoedd a’r ystlumod yn yr Eglwys Gadeiriol.”