Theatr awyr agored yn dod â dirgelwch a cherddoriaeth i Gastell Caeriw’r haf hwn
Mae disgwyl i nosweithiau’r haf yng Nghastell Caeriw fod yn llawn cyffro Baskerville, caneuon y jyngl a theatr i’r teulu cyfan, wrth i ddwy stori boblogaidd ddod yn fyw ar dir Castell Caeriw.
Dewch â phicnic, blanced neu gadair â chefn isel i Gastell Caeriw i fwynhau perfformiad byw yn un o leoliadau hanesyddol mwyaf atmosfferig Sir Benfro. Bydd diodydd poeth a hufen iâ ar gael yn ystod y digwyddiad.
Bydd y cyntaf o’r perfformiadau awyr agored yng Nghaeriw yn digwydd ar ddydd Iau 30 Gorffennaf, pan fydd Cwmni Theatr Pantaloons, sydd wedi ennill clod mawr, yn perfformio cynhyrchiad newydd sbon o Sherlock Holmes a The Hound of the Baskervilles.
Mae’r sioe yn dilyn Holmes a Watson wrth iddynt ymchwilio i gyfrinach melltith teulu Baskerville, sy’n llawn cerddoriaeth fyw, cyfleoedd i ryngweithio â’r gynulleidfa a digonedd o hwyl theatrig. Mae’r cynhyrchiad yn addas i bob oed ond rydym yn annog rhieni i ystyried addasrwydd. Mae’n addo i fod yn noswaith o ddirgelwch, dryswch a chwerthin ar dir y Castell.
Y dydd Mawrth canlynol, 4 Awst, bydd The Jungle Book yn cyrraedd y castell, pan fydd Immersion Theatr yn dod â’u hegni nodweddiadol i greu addasiad cerddorol newydd o stori sydd ar restr ffefrynnau bob teulu.
Bydd y sioe, sy’n llawn cerddoriaeth wreiddiol, cyfleoedd i’r gynulleidfa gymryd rhan a chymeriadau dros ben llestri, yn dilyn Mowgli, Baloo a Bagheera ar antur wyllt drwy’r jyngl gyda mwncïod direidus, neidr a’r teigr ffyrnig, Shere Khan. Caiff y sioe ei hargymell i blant dros bedair oed, ac mae’n addo i fod yn noswaith ddoniol a chyffrous i ddiddanu’r teulu cyfan.
Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell Caeriw:
“Yr hyn sy’n gweithio mor dda am theatr awyr agored yng Nghastell Caeriw yw ei naws hamddenol a chymdeithasol. Gall pobl ddod â phicnic, treulio amser gyda theulu a ffrindiau a mwynhau theatr deithiol broffesiynol heb orfod poeni am awyrgylch ffurfiol theatrau traddodiadol.
“Mae’r cynyrchiadau eleni yn cynnig dau brofiad cwbl wahanol, o hiwmor a dirgelwch Sherlock Holmes and The Hound of the Baskervilles, i liw, cerddoriaeth ac egni The Jungle Book. Dyma’r union fath o berfformiadau sy’n gweithio’n dda yn yr awyr agored, gan roi cyfle i deuluoedd a chefnogwyr theatr i fwynhau.”
Bydd y gatiau’n agor am 5.30pm i Sherlock Holmes and The Hound of the Baskerville nos Iau 30 Gorffennaf, a bydd y perfformiad yn dechrau am 6.30pm. Mae’n para tua dwy awr yn fras, gydag egwyl.
Ar gyfer The Jungle Book nos Fawrth 4 Awst, bydd y gatiau’n agor am 4.45pm a bydd y sioe yn dechrau am 5.30pm. Mae’r perfformiad yn para tua awr a 25 munud yn fras, gydag egwyl rhwng y ddwy act.
Mae tocynnau’n £16 i oedolion, £12 i blant rhwng 3 a 16 neu £50 am docyn teulu i ddau oedolyn a dau blentyn, neu dri oedolyn ac un plentyn. Rhaid cadw lle yn www.castellcaeriw.com.
Ni ellir cael arian yn ôl am y tocynnau a bydd y perfformiadau yn dal i gael eu cynnal mewn tywydd gwlyb, felly rydym yn annog ymwelwyr i wisgo dillad cynnes sy’n dal dŵr a dod â thortsh gyda nhw.