Mynediad am ddim i Felin Heli Caeriw i nodi Penwythnos Cenedlaethol y Melinau
I ddathlu Penwythnos Cenedlaethol y Melinau, bydd Melin Heli Caeriw yn cynnig mynediad am ddim ar ôl 3pm ddydd Sadwrn 9 Mai a dydd Sul 10 Mai, 2026.
Mae’r cynnig arbennig hwn yn rhoi cyfle i ymwelwyr gamu i mewn i’r adeilad eiconig yn rhad ac am ddim er mwyn dysgu rhagor am unig felin heli gyflawn Cymru. Dyma’r cyfle perffaith i unrhyw un sydd wedi mwynhau cerdded o amgylch Llyn y Felin, ond sydd erioed wedi mentro mewn i’r felin ei hun, i archwilio’r adeilad unigryw hwn o dreftadaeth ddiwydiannol.
Penwythnos Cenedlaethol y Melinau yw gŵyl flynyddol y Deyrnas Unedig, sy’n cael ei drefnu gan y Gymdeithas Gwarchod Adeiladau Hynafol, i ddathlu treftadaeth melinau. Bob mis Mai, mae cannoedd o felinau gwynt a melinau dŵr ledled y wlad, y mae nifer ohonynt ar gau i’r cyhoedd, yn agor eu drysau er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o ba mor bwysig yw gwarchod y tirnodau hanesyddol hyn.
Mae Melin Heli Caeriw, sy’n adeilad rhestredig Gradd II, yn un o’r pum melin heli sydd wedi’u hadfer yn y DU. Mae’r felin hon, sydd o bwys cenedlaethol, yn un o oroeswyr prin technoleg ynni adnewyddadwy. Daeth y gwaith i ben ar y safle yn 1937, ond mae’r holl beiriannau gwreiddiol yn dal yno, ac yn rhoi cyfle unigryw i bobl gael cipolwg ar y gorffennol.
Mae’r bobl sy’n ymweld â’r felin yn cael cyfle i edrych ar arddangosfa ryngweithiol a sylwebaeth sain sy’n dangos sut mae dŵr wedi cael ei ddefnyddio fel ffynhonnell egni gynaliadwy dros y canrifoedd.
Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell a Melin Heli Caeriw: “Mae Melin Heli Caeriw yn enghraifft nodedig o dreftadaeth ddiwydiannol Cymru, ac yn ein hatgoffa sut roedd adnoddau naturiol yn arfer cael eu defnyddio i roi pŵer i gymunedau lleol. Mae Penwythnos Cenedlaethol y Melinau yn gyfle gwych i groesawu ymwelwyr i’r adeilad a rhannu stori’r adeilad unigryw hwn.”
Bydd mynediad am ddim i Felin Heli Caeriw rhwng 3pm a 4:30pm ar y ddau ddiwrnod. Mynediad olaf am 4:30pm a bydd y Felin yn cau am 5pm. Mynediad am ddim i’r Felin yn unig, nid yw hyn yn cynnwys mynediad i Gastell Caeriw.
Sylwch fod grisiau at fynediad y Felin Heli.
I gael gwybodaeth i ymwelwyr ac oriau agor, ewch i www.castellcaeriw.com.
Mae rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau sy’n cael eu cynnal ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar gael ar www.pembrokeshirecoast.cymru/digwyddiadau.