Marchogion yn dychwelyd i Gastell Caeriw ar gyfer cystadleuaeth ymwanu hanesyddol

Posted On : 26/05/2026

Bydd marchogion arfog yn dychwelyd i Gastell Caeriw yr haf hwn wrth i dirnod hanesyddol Sir Benfro gynnal twrnamaint ymwanu (jousting) byw am y tro cyntaf ers dros 500 o flynyddoedd.

Cynhelir y digwyddiad ddydd Sadwrn 4 a dydd Sul 5 Gorffennaf, a bydd pobl broffesiynol yn cystadlu mewn arfwisg lawn o flaen cefndir dramatig un o gestyll mwyaf atmosfferig Cymru.

Bydd y Twrnamaint Ymwanu Canoloesol yn dathlu cysylltiad Castell Caeriw â Syr Rhys ap Thomas, sef uchelwr pwerus o Gymru a chwaraeodd ran allweddol yn llwyddiant Harri Tudur ym Mrwydr Bosworth yn 1485.

Ym 1507, dathlodd Syr Rhys ei benodiad i Urdd y Gardas Aur drwy gynnal twrnamaint pum diwrnod godidog yng Nghastell Caeriw, gan ddod â marchogion, uchelwyr a gwylwyr at ei gilydd ar gyfer y twrnamaint canoloesol mawr olaf a gynhaliwyd yng Nghymru. Cynhaliwyd dathliad cymunedol o’r Twrnamaint Mawr hwnnw gerllaw yn 2007, ond yr haf hwn fydd y tro cyntaf ers dros bum canrif i Gastell Caeriw weld carnau ceffylau’n taranu a gwaywffyn yn cael eu codi wrth i farchogion arfog garlamu mewn cystadleuaeth farchogaeth byw.

Bydd y twrnamaint yn cael ei gyflwyno gan dîm ymwanu proffesiynol Griffin Historical, a sgiliau’r rhai sy’n cymryd rhan ar y diwrnod fydd yn pennu’r enillydd. Ar ddiwedd y twrnamaint, bydd un marchog yn cael ei goroni’n bencampwr ymwanu cyntaf Castell Caeriw yn yr unfed ganrif ar hugain.

Dechreuodd sawl aelod o dîm y twrnamaint eu gyrfaoedd gyda’r grŵp cafalri enwog Destrier, o dan y diweddar Nicky Willis, a oedd yn un o sêr a hyfforddwyr ymwanu mwyaf uchel ei barch y DU. Er bod eu gyrfaoedd wedi mynd â nhw i dwrnameintiau a lleoliadau hanesyddol ledled y DU ac Ewrop, mae digwyddiad Caeriw yn gyfle prin i’w gweld yn dod at ei gilydd mewn castell gyda’i etifeddiaeth fywiog ei hun.

Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell Caeriw: “Mae Castell Caeriw yn llawn straeon, ond mae’n well gweld, clywed a theimlo rhai straeon er mwyn eu deall yn iawn. Mae twrnamaint byw yn dod â lliw, symudiad a chyffro yn ôl i dir y Castell, gan roi ymdeimlad o’r egni oedd gan y mannau hyn ar un adeg. Rydyn ni’n falch iawn o groesawu digwyddiad mor anarferol a chofiadwy i Gastell Caeriw, ac o gynnig ffordd newydd i bobl brofi hanes.”

Ochr yn ochr â dau gyfle i wylio’r prif ddigwyddiad bob dydd, gall ymwelwyr fwynhau gwersyll Canoloesol bywiog sy’n cynnwys ail-greu mewn gwisgoedd, crefftau traddodiadol a Rhoi Cynnig ar Saethyddiaeth. Mae’r rhaglen yn parhau gydag arddangosfeydd hyfforddi byddinoedd go iawn a thwrnamaint gornestau.

Rhaid archebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad ymlaen llaw. Mae rhagor o wybodaeth am y Twrnamaint Ymwanu Canoloesol a digwyddiadau eraill ar gael yn www.castellcaeriw.com.