Hanes Sir Benfro yn dod yn fyw yng Nghastell Caeriw
Bydd y rhai sy’n ymweld â Chastell Caeriw yn cael cyfle i fwynhau canrifoedd o hanes lleol dros yr haf, wrth i Datgelu Hanes: Hanes Sir Benfro ddychwelyd ddydd Llun 3 Awst.
Bydd y digwyddiad yn dod ag archaeolegwyr, haneswyr a sefydliadau treftadaeth at ei gilydd am ddiwrnod o ddarganfyddiadau, arddangosiadau a gweithgareddau ymarferol sy’n edrych ar y bobl, y lleoedd a’r gwrthrychau sydd wedi siapio’r sir.
Yn ogystal â chael cyfle i edrych ar amrywiaeth eang o arteffactau a chasgliadau, bydd gwesteion yn cael cwrdd ag arbenigwyr a haneswyr brwd, a dysgu mwy am y gwaith archaeolegol sy’n digwydd ar draws y rhanbarth. Bydd y sefydliadau sy’n dod i’r digwyddiad yn cynnwys Heneb – Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru, Pembrokeshire Prospectors, Amgueddfa Dinbych-y-pysgod a Phentref Oes Haearn Castell Henllys.
Bydd digon i ymwelwyr iau ei wneud hefyd – gyda gweithgareddau archaeoleg rhyngweithiol, gemau, a chyfleoedd i roi cynnig ar sgiliau traddodiadol. Bydd Ysgol Marchogion a Sesiwn Saethyddiaeth hefyd yn rhoi ymdeimlad canoloesol i’r diwrnod.
Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell Caeriw: “Mae Datgelu Hanes yn gyfle gwych i bobl archwilio treftadaeth leol ochr yn ochr â’r rhai sy’n astudio’r dreftadaeth honno, yn ei gwarchod, ac yn dod â hi’n fyw.
“Braf yw gweld arbenigwyr a sefydliadau rhanbarthol yn dod at ei gilydd mewn un lle. Rydyn ni wrth ein bodd ein bod yn cynnal diwrnod sy’n dathlu dyfnder ac amrywiaeth ein hanes lleol.”
Bydd Datgelu Hanes: Hanes Sir Benfro yn cael ei gynnal rhwng 10am a 4pm ddydd Llun 3 Awst. Codir tâl mynediad arferol, ac mae’n rhaid defnyddio grisiau i gyrraedd rhai elfennau o’r digwyddiad.
I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn ac i gael gwybod am ddigwyddiadau eraill sy’n cael eu cynnal yng Nghastell Caeriw dros yr haf, ewch i www.castellcaeriw.com.