Hanes, helfa ac anturiaethau yng Nghastell Caeriw yr hanner tymor hwn
Gall teuluoedd edrych ymlaen at raglen lawn dop o hanes, gweithgareddau ymarferol ac antur awyr agored yng Nghastell Caeriw yn ystod hanner tymor mis Mai eleni, gyda digwyddiadau’n cael eu cynnal drwy gydol yr wythnos ar gyfer plant ac oedolion.
Mae’r rhaglen yn cynnig digon o ffyrdd o archwilio hanes a thiroedd y Castell mewn ffyrdd hwyliog a chofiadwy, gan gynnwys helfeydd trysor, gwersylloedd canoloesol, perlysiau, ystlumod a pheiriannau gwarchae.
Mae Cyrch y Teithiwr Amser yn rhedeg bob dydd drwy gydol y gwyliau ac yn gwahodd ymwelwyr i gamu i’r gorffennol ar helfa drysor hunan-arweiniol drwy’r oesoedd. Gan ddefnyddio ffôn clyfar, gall teuluoedd deithio o’r Oes Haearn i’r Oesoedd Canol ac Oes Elisabeth, a hyd yn oed i’r Ail Ryfel Byd, gan ddatgelu cyfrinachau sydd wedi’u cuddio o fewn muriau’r Castell. Mae’r gweithgaredd yn costio £2.50 y plentyn, a chodir y tâl mynediad arferol.
Rhwng dydd Sul 24 a dydd Mawrth 26 Mai, bydd digwyddiad trawiadol Bowlore: Chwedlau Bwa a Llafn yn dychwelyd gyda’i wersyll canoloesol. Bydd ymladd â chleddyfau dychrynllyd, saethyddiaeth anhygoel ac arddangosfeydd arfwisgoedd yn dod i dir y Castell. Gall ymwelwyr gymryd rhan yn yr Ysgol Gleddyfau, Rhoi Cynnig ar Fwa Saeth a thrin arfau canoloesol go iawn. Pris mynediad arferol, gyda ffi arian parod fechan am gymryd rhan mewn rhai gweithgareddau.
Prynhawn dydd Mercher 27 Mai am 2.30pm, gall ymwelwyr weld un o arddangosiadau mwyaf dramatig a phoblogaidd y Castell, sef y Trebuchet Enfawr yn cael ei thanio. Roedd y catapwlt canoloesol enfawr hwn yn arfer taflu cerrig at waliau caerog gyda grym dinistriol, a bydd ymwelwyr yn cael cipolwg diddorol ar bŵer a dyfeisgarwch rhyfel gwarchae canoloesol.
Yn ddiweddarach y noson honno, bydd Castell Caeriw yn cynnal Taith Gerdded Ystlumod gyda’r Nos am 8.45pm, gan roi cyfle i ymwelwyr ddarganfod y bywyd gwyllt cudd sy’n dod i’r amlwg ar ôl iddi dywyllu. Bydd y daith, sy’n cael ei harwain gan dywysydd arbenigol ac sy’n defnyddio teclynnau canfod ystlumod, yn archwilio pam mae tir y Castell yn hafan mor bwysig i ystlumod. Mae tocynnau ar gael am £10 y pen. Mae’n hanfodol archebu ymlaen llaw gan fod lleoedd yn brin. Gallwch archebu yma:
https://events.pembrokeshirecoast.wales/#category_1
I blant sy’n mwynhau natur a chrefftau, cynhelir Hwre i Berlysiau! prynhawn dydd Iau 28 a phrynhawn dydd Gwener 29 Mai rhwng 2.30pm a 3.30pm. Gall teuluoedd fwynhau taith fer o amgylch y gwelyau perlysiau cyn casglu cynhwysion i wneud past dannedd, te balm lemon a chreu tusw bach traddodiadol. Mae’r gweithgaredd am ddim gyda thocyn mynediad arferol i’r Castell.
Mae mwy o hwyl ymarferol ar 28 a 29 Mai, gyda sesiynau galw heibio Arfau ac Arfwisgoedd rhwng 10.30am a 11.30am, lle gall ymwelwyr wisgo arfwisg, codi tarian frwydr a chleddyf hir, a dysgu rhai symudiadau ymladd â chleddyfau. Yn ddiweddarach yn y dydd am 3pm, gall teuluoedd ymuno â digwyddiad Canfod yr Allwedd!, helfa drysor gyffrous i chwilio am yr allwedd a fydd yn agor y gist drysor. Mae’r ddau weithgaredd yn rhad ac am ddim gyda mynediad arferol.
Daw’r rhaglen hanner tymor i ben ar nodyn creadigol ddydd Sadwrn 30 Mai, pan fydd Crefftau Hudolus gyda Whimsical Wildlings yn dod â hud i is-grofft atmosfferig y Castell. Gall y plant addurno eu coronau, cleddyfau, baneri, drychau a thariannau eu hunain i fynd adref gyda nhw, gyda’r prisiau’n dechrau o £2 yr eitem. Does dim angen archebu lle.
Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell a Melin Heli Caeriw: “Mae cymysgedd gwych o weithgareddau yng Nghastell Caeriw dros yr hanner tymor hwn, yn cynnwys hwyl ganoloesol, anturiaethau teuluol, profiadau ym myd natur a chrefftau creadigol. Mae’n gyfle gwych i deuluoedd fwynhau amser gyda’i gilydd, crwydro’r Castell a darganfod rhywbeth newydd.”
Mae Castell Caeriw yn cau’n gynnar ddydd Sadwrn 23 Mai ar gyfer priodas breifat. Felly, mae mynediad olaf i ymwelwyr am 1pm a bydd y Castell yn cau am 1.30pm. Bydd Melin Heli Caeriw, y Siop Anrhegion ac Ystafell De Nest yn aros ar agor fel arfer.
Bydd Ystafell De Nest hefyd ar agor yn ystod gwyliau hanner tymor yn gweini cinio ysgafn, cacennau cartref a choffi Masnach Deg gwych.
Hyn a hyn o leoedd sydd ar gael ar gyfer rhai digwyddiadau neu mae’n rhaid cadw lle ymlaen llaw. Mae rhagor o wybodaeth am yr holl ddigwyddiadau hyn ar gael yn https://www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.