Gwisgoedd newydd yn rhoi bywyd newydd i hanes Castell Caeriw

Posted On : 23/07/2026

Gall ymwelwyr â Chastell Caeriw nawr gamu i’r gorffennol diolch i rodd hael gan Gyfeillion Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, sydd wedi ariannu casgliad newydd sbon o wisgoedd hanesyddol i deuluoedd a phlant eu mwynhau.

Rhoddodd Cyfeillion Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro £500 i Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro, gan eu galluogi i brynu amrywiaeth o wisgoedd canoloesol a Thuduraidd go iawn, sydd bellach ar gael i ymwelwyr eu gwisgo yn ystod eu hymweliad.

Daeth y gwisgoedd gan y cyflenwyr hanesyddol arbenigol Celtic Web Merchant a Get Dressed For Battle, sy’n enwog am ddarparu dillad ac offer o ansawdd uchel i amgueddfeydd, atyniadau treftadaeth, theatrau, cynyrchiadau ffilm a theledu, a grwpiau ail-greu hanesyddol.

Mae’r casgliad yn cynnwys clogynnau, tiwnigau, ffrogiau a hetiau Tuduraidd, yn ogystal â ffrogiau, tiwnigau a penwisgoedd canoloesol, sy’n cynrychioli dillad o tua’r 12fed ganrif i’r 16eg ganrif. Er eu bod yn seiliedig ar ddyluniadau hanesyddol go iawn, mae’r dillad wedi cael eu gwneud i fod yn ymarferol ac i bara, gan sicrhau bod ymwelwyr yn gallu eu mwynhau am flynyddoedd i ddod.

Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Gwasanaethau Ymwelwyr yng Nghastell Caeriw: “Rydyn ni wrth ein bodd gyda’r gwisgoedd ychwanegol hyn i’n casgliad. Maen nhw yno i ymwelwyr o bob oed eu gwisgo, tynnu lluniau ac ymgolli’n llwyr yn hanes Castell Caeriw. Rydyn ni’n gobeithio y byddan nhw’n ychwanegu elfen ychwanegol o hwyl at bob ymweliad, gan roi cyfle i deuluoedd a ffrindiau gamu i esgidiau pobl o’r Oesoedd Canol a’r Tuduriaid, a chreu atgofion gwych gyda’i gilydd.”

Dywedodd Katie Macro, Cyfarwyddwr Elusen Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro: “Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i Gyfeillion Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro am eu cefnogaeth hael. Mae partneriaethau fel hyn yn dangos gwerth sefydliadau’n cydweithio i wella profiadau ymwelwyr, a chysylltu mwy o bobl â threftadaeth anhygoel y Parc Cenedlaethol.

“Mae gan y Cyfeillion hanes hir o gefnogi prosiectau sy’n ysbrydoli pobl o bob oed i ddarganfod a gwerthfawrogi tirweddau a hanes unigryw Sir Benfro. Rydyn ni’n falch o weithio ochr yn ochr â nhw, er mwyn helpu i droi rhoddion hael yn brofiadau ystyrlon sy’n annog dysgu, yn tanio chwilfrydedd ac yn creu atgofion parhaol i deuluoedd sy’n ymweld â Chastell Caeriw.”

Dywedodd Clare Dow, Cadeirydd Cyfeillion Arfordir Penfro: “Mae Cyfeillion Arfordir Penfro yn hapus iawn i helpu pobl ifanc i ddysgu am dreftadaeth gyfoethog Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro drwy ddarparu grant ar gyfer y stondin gwisgoedd yng Nghastell Caeriw. Mae’n safle hanesyddol pwysig. Mae deall y rhai a oedd yn byw yno, y dillad roedden nhw’n eu gwisgo a ffasiwn yr oes i gyd yn ychwanegu at brofiad addysgol ymarferol o dreftadaeth Sir Benfro.”

Mae’r gwisgoedd newydd bellach ar gael i ymwelwyr eu mwynhau yn ystod eu hymweliad â Chastell Caeriw, sy’n cynnig ffordd ddifyr i bobl o bob oed ddysgu am hanes canoloesol a Thuduraidd diddorol y safle. P’un ai eu bod yn gwisgo fel uchelwr, masnachwr neu breswylydd mewn castell, gall ymwelwyr ymgolli yn y gorffennol wrth greu ffotograffau a phrofiadau cofiadwy gyda theulu a ffrindiau.

Am ragor o wybodaeth am waith Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro a Chyfeillion Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, neu i gael gwybod sut gallwch chi gefnogi eu gwaith, ewch i https://ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru a www.fpcnp.org.uk.