Gwirfoddolwyr Castell Caeriw yn cael eu hanrhydeddu â gwahoddiad i Arddwest y Brenin
Mae grŵp o wirfoddolwyr sydd wedi treulio’r pum mlynedd diwethaf yn helpu i ofalu am un o safleoedd mwyaf eiconig Sir Benfro wedi cael eu hanrhydeddu â gwahoddiad i Balas Buckingham.
Ddechrau mis Mai eleni, cafodd pum aelod o’r grŵp o wirfoddolwyr sy’n Cynnal a Chadw Tir a Safle Castell Caeriw gyfle i fynychu un o Arddwestau’r Brenin, ar ôl i’r grŵp gael ei enwebu i gydnabod yr holl waith gwirfoddol arbennig maen nhw’n ei gyflawni.
Aeth David Clarke, Helen Clarke, Chris Williams, Lorna Alexander a Claire Phillips i’r Arddwest i gynrychioli’r grŵp, sy’n cynnwys naw o wirfoddolwyr. Ymhlith y rhai oedd yn bresennol yn yr Arddwest oedd aelodau o’r Teulu Brenhinol, gan gynnwys y Brenin Charles, y Frenhines Camilla, y Dywysoges Anne, y Tywysog Edward a Sophie, Duges Caeredin.
Mae’r grŵp yn gwirfoddoli un diwrnod yr wythnos yng Nghastell Caeriw, ac yn helpu i ofalu am yr Heneb Restredig, tir y Castell a’r Felin Heli.
Dros y pum mlynedd diwethaf, mae eu gwaith wedi bod yn amrywiol iawn, ac maent wedi gweithio ar brosiectau cadwraeth, gwella mynediad i’r cyhoedd, adnewyddu offer melino hanesyddol a chefnogi gwaith ehangach i ofalu am dirwedd hanesyddol y Castell.
Mae’r gwaith hwn wedi helpu i ymestyn y tymor ymweld yng Nghaeriw, gan ddenu mwy o bobl at y safle y tu hwnt i fisoedd traddodiadol yr haf a chefnogi cyfleoedd cyflogaeth hirach mewn lleoliad twristiaeth tymhorol.
Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell Caeriw: “Mae ein gwirfoddolwyr gwych yn dod draw bob wythnos yn ddi-ffael, ni waeth beth yw’r tywydd, ac yn rhoi eu hamser, eu sgiliau a’u hegni i helpu i ofalu am le sy’n golygu cymaint i Sir Benfro.
“Mae cymaint o’r hyn maen nhw’n ei wneud yn digwydd yn dawel bach, y tu ôl i’r llen, ond mae’r ymwelwyr yn gweld y canlyniadau ym mhob man, o gyflwr y tir i’r gwelliannau mynediad a’r digwyddiadau tymhorol sy’n dod â’r Castell yn fyw.
“Roeddem ni wrth ein bodd bod aelodau’r grŵp wedi cael eu gwahodd i Balas Buckingham. Roedd yr anrhydedd yn gwbl haeddiannol ac yn ffordd arbennig o gydnabod eu hymrwymiad.”
Mae Garddwestau’r Brenin yn cael eu cynnal yn flynyddol i roi cydnabyddiaeth i’r bobl sydd wedi cyfrannu’n sylweddol at wasanaeth cyhoeddus, bywyd cymunedol a gwaith gwirfoddol.
Mae rhagor o wybodaeth am ymweld â Chastell Caeriw a rhaglen o ddigwyddiadau’r haf, ar gael yma: www.castellcaeriw.com.