Gwahodd contractwyr lleol i gael gwybod am y fframwaith Adfer Natur newydd
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn gwahodd contractwyr a chyflenwyr lleol i gyfres o ddigwyddiadau Cwrdd â’r Prynwr cyn lansio fframwaith wyth mlynedd newydd ar gyfer gwaith cadwraeth, mynediad a rheoli tir ymarferol.
Datblygwyd y fframwaith gan dîm Adfer Natur yr Awdurdod, gyda chanllawiau caffael gan Barcud Shared Services. Disgwylir i’r fframwaith fynd ar GwerthwchiGymru ddiwedd mis Gorffennaf.
Cyn lansio’r tendr, bydd tri digwyddiad yn rhoi cyfle i gyflenwyr posibl gwrdd â swyddogion o’r Awdurdod, Barcud Shared Services a Busnes Cymru, dysgu mwy am y fframwaith, a chael arweiniad ar y broses o wneud cais.
Bydd y fframwaith yn ymdrin ag amrywiaeth eang o waith ar draws y Parc Cenedlaethol, gan gynnwys ffensio, gwaith llystyfiant a choed, rheoli rhywogaethau estron goresgynnol, ecoleg, strwythurau mynediad fel pontydd, gatiau, camfeydd ac arwyddbyst, gwaith peiriannau, cynnal a chadw peiriannau a chaffael pren.
Bydd y digwyddiadau Cwrdd â’r Prynwr yn cael eu cynnal yn Oriel y Parc, Tyddewi, rhwng 9am a 12pm a Neuadd Bentref Maenclochog rhwng 1pm a 4pm ddydd Mawrth 15 Gorffennaf, ac yna bydd digwyddiad drwy’r dydd yn Ystafell Preseli ym Mharc Llanion, Doc Penfro, ddydd Mercher 22 Gorffennaf.
Bwriad y fframwaith yw ei gwneud yn haws i’r Awdurdod weithio gyda chyflenwyr sydd â chymwysterau addas ar brosiectau sy’n cefnogi adfer natur, mynediad a chadwraeth ar draws y Parc Cenedlaethol.
Dywedodd Tom Iggledon, Swyddog Contractau a Thechnegol Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Gwyddom fod prosesau tendro yn gallu bod yn frawychus weithiau, yn enwedig i fusnesau llai neu gyflenwyr nad ydynt o bosibl wedi gwneud cais am y math hwn o waith o’r blaen.
“Mae’r digwyddiadau hyn yn gyfle i ofyn cwestiynau, deall beth fydd ei angen, a chanfod a allai’r fframwaith fod yn addas ar gyfer y gwasanaethau y maen nhw’n eu darparu.”
I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau Cwrdd â’r Prynwr, anfonwch neges e-bost at cath@barcudsharedservices.org.uk neu tomI@arfordirpenfro.org.uk.