Byddwch yn grefftus yng Nghastell Caeriw’r gaeaf hwn

Posted On : 12/10/2026

Fis Tachwedd eleni, bydd nosweithiau clud a chreadigol yn cael eu cynnal yng Nghastell Caeriw fel rhan o gyfres newydd o weithdai ymarferol a fydd yn cynnwys pedwar cyfle i greu, dysgu, ac ymlacio yn Ystafell De Nest.

Mae’r sesiynau, sy’n cael eu cynnal ar nos Fawrth yng Ngardd Furiog y Castell, wedi’u cynllunio ar gyfer dechreuwyr ac yn cynnig ffordd hamddenol o roi cynnig ar grefft newydd. Byddwn yn darparu’r holl ddeunyddiau, y mentora, a the neu goffi a chacen gartref.

Mae’r rhaglen yn dechrau ddydd Mawrth 3 Tachwedd gyda Gweithdy Creu Broetsh drwy Ffeltio â Nodwyddau, lle bydd cyfranogwyr yn cael cyfle i ddysgu am hanfodion ffeltio â nodwyddau cyn mynd ati i greu eu broetsh eu hunain gyda dyluniad Nadoligaidd, blodeuog neu gwbl bersonol.

Ddydd Mawrth 10 Tachwedd, bydd darnau o ffabrig yn cael eu trawsnewid yn addurniadau lliwgar yn ystod y Gweithdy Gwneud Torchau Nadolig, lle bydd pawb sy’n bresennol yn cael cyfle i greu torch ar gyfer eu drws, addurn Nadoligaidd neu anrheg wedi’i wneud â llaw.

Wythnos yn ddiweddarach, bydd Cyflwyniad i Galigraffeg yn rhoi cipolwg i ni ar y byd canoloesol. Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal ddydd Mawrth 17 Tachwedd, ac yn edrych ar gwils plu gŵydd, inc afal derw, llythrennu traddodiadol a gwaith sgrifellwyr ac addurnwyr.

Bydd y gyfres yn dod i ben ddydd Mawrth 24 Tachwedd gyda Gweithdy Ffeltio Nodwyddau Nadoligaidd, a fydd yn rhoi cyfle i ddechreuwyr greu addurniadau Nadoligaidd ar gyfer eu coeden neu i’w rhoi i deulu a ffrindiau.

Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell Caeriw: “Mae ein gweithdai dros y gaeaf bob amser yn ffordd bleserus o ddod â’r flwyddyn i ben yng Nghaeriw. Maent yn rhoi cyfle i bobl ymlacio am awr neu ddwy, dysgu rhywbeth newydd a mynd adref gyda rhywbeth maen nhw wedi’i wneud. Mae’r rhaglen eleni’n cynnwys cymysgedd hyfryd o grefftau traddodiadol a chreadigrwydd Nadoligaidd, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu pobl yn ôl i Ystafell De Nest fis Tachwedd.”

Bydd y gweithdai’n cael eu cynnal rhwng 4.30pm a 6.30pm ac yn costio £25 y pen. Mae’r sesiynau’n addas i bobl 12 oed a hŷn. Ychydig o lefydd sydd ar gael felly rhaid archebu lle.

Ewch i www.castellcaeriw.com i gael rhagor o fanylion.

A close up of a pair of hands forming calligraphy letters with a feather quill.