Dros 160 o redwyr yn cymryd rhan yn ras 10km Llys-y-Frân i gefnogi Arfordir Penfro

Posted On : 22/07/2026

Fe wnaeth dros 160 o redwyr groesi’r llinell derfyn yn ras 10km gyntaf Llys-y-Frân ddydd Sul, wrth i gyfranogwyr o bob gallu ddod at ei gilydd i fwynhau diwrnod gwych o redeg ar hyd y llwybr yn amgylchedd hyfryd Parc Gwledig Llys-y-Frân.

Roedd y ras, a gafodd ei chynnal mewn partneriaeth ag AspireX Events a Run the Trails, yn mynd ar hyd llwybr hardd drwy goetir a chronfa ddŵr y parc. Roedd yr awyrgylch yn ystod y dydd yn llawn anogaeth, ysbryd cymunedol a dathlu, gyda chefnogwyr yn casglu mewn mannau ar hyd y llwybr i gefnogi’r rhedwyr.

Dywedodd Katie Macro, Cyfarwyddwr Elusen Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro: “Allen ni ddim bod wedi gofyn am ras 10km gyntaf well yn Llys-y-Frân. Roedd gweld dros 160 o redwyr yn cymryd rhan yn anhygoel, ac roedd yr awyrgylch drwy gydol y dydd yn wych. Roedd pob rhedwr, gwirfoddolwr, cefnogwr a noddwr wedi cyfrannu at lwyddiant ysgubol y digwyddiad, ac rydyn ni mor ddiolchgar am y gefnogaeth rydyn ni wedi’i chael.”

Hoffai’r Ymddiriedolaeth ddiolch o galon i AspireX Events a Run the Trails, yn enwedig Jay Skipper a’i dîm. Roedd eu profiad a’u hymroddiad wedi sicrhau bod y digwyddiad yn rhedeg yn esmwyth o’r dechrau i’r diwedd.

Diolch arbennig hefyd i noddwyr y digwyddiad – Pure West Radio, Scott Williams Motorsports, Bridaltique a HealthAspire. Mae eu cefnogaeth hael wedi helpu i wneud y digwyddiad yn bosibl.

Mae’r Ymddiriedolaeth hefyd yn ddiolchgar i Casey o All Things Fit am arwain y sesiynau cynhesu ac oeri, gan helpu’r rhedwyr i baratoi ar gyfer yr her ac i gael eu gwynt atynt ar ôl gorffen.

Roedd yr ymwelwyr hefyd wedi mwynhau pori drwy’r dillad arfordirol a oedd ar gael gan Kryssy o Sakura, ac roedd Tamlyn o Hyla wedi rhoi bagiau’n llawn nwyddau gwych yn anrheg i’r enillwyr.

Roedd James o JWJT Media, Lilly-Louise Clynes a Dave Marriott yno’n tynnu lluniau yn ystod y dydd – bydd eu ffotograffau’n helpu i ddangos llwyddiant y digwyddiad a’r ysbryd cymunedol anhygoel oedd yno.

Ychwanegodd Katie: “Mae wedi bod yn hyfryd gweithio ochr yn ochr â chynifer o fusnesau ac unigolion lleol a roddodd eu hamser, eu harbenigedd a’u cefnogaeth. Mae partneriaethau fel y rhain yn creu cyfleoedd i bobl fynd allan i’r awyr agored, i weld tirwedd anhygoel Sir Benfro, ac i ddod â’n cymuned at ei gilydd. Gobeithio mai hwn yw’r cyntaf o nifer o ddigwyddiadau 10km llwyddiannus yn Llys-y-Frân.”

Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro yn edrych ymlaen at adeiladu ar lwyddiant y digwyddiad eleni ac i barhau â’i phartneriaeth ag AspireX Events a Run the Trails i annog hyd yn oed mwy o bobl i fwynhau tirwedd drawiadol Sir Benfro drwy gymryd rhan mewn digwyddiadau yn yr awyr agored.