Diwrnodau darganfod Gwreiddiau yn ysbrydoli cannoedd o bobl ifanc i gysylltu â byd natur

Posted On : 24/07/2026

Cymerodd dros 200 o ddisgyblion o saith ysgol ran mewn dau Ddiwrnod Darganfod Gwreiddiau / Roots ysbrydoledig yn Dale, a chael mwynhau profiadau ymarferol yn yr awyr agored i fagu hyder, datblygu sgiliau newydd a chryfhau eu cysylltiad â natur.

Daeth y digwyddiad deuddydd â disgyblion o bob rhan o Sir Benfro at ei gilydd i archwilio’r Parc Cenedlaethol drwy amrywiaeth o weithgareddau diddorol dan arweiniad arbenigwyr a sefydliadau lleol. Roedd y Diwrnodau Darganfod hefyd yn croesawu cynrychiolwyr o South Hook LNG, prif gyllidwyr y prosiect Gwreiddiau, a oedd yn gallu gweld â’u llygaid eu hunain yr effaith gadarnhaol y mae eu cefnogaeth yn ei chael ar bobl ifanc ledled y sir.

Roedd y Diwrnodau Darganfod, a gafodd eu cynnal yn ardal hardd Dale, yn arddangos yr amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael drwy’r rhaglen Gwreiddiau. Bu’r disgyblion yn archwilio’r arfordir gyda staff Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Bryony Rees a’r Parcmon Molly Ashton, gan ddarganfod cynefinoedd cyfoethog y glannau creigiog a defnyddio Canllaw Sbotio’r Cleddau sydd newydd gael ei ddatblygu i adnabod bywyd gwyllt lleol.

Bu’r grŵp hefyd yn cymryd rhan mewn sesiwn bwyd a chynaliadwyedd gyda Tân a Môr, lle cyflwynodd y Cogydd Kate gynnyrch i’r disgyblion sy’n cael ei ffermio a’i fforio’n lleol o Benrhyn Dale, cyn eu helpu i greu menyn gan ddefnyddio cynhwysion lleol.

Arweiniodd yr artistiaid o Dale, Sean a Wendy Kehoe, gyfres o weithdai creadigol, a oedd yn rhoi’r cyfle i ddisgyblion ddylunio crysau-T ar thema’r arfordir a chreu cerfluniau unigryw gyda chregyn taradr. Roedd y gweithgareddau’n tanio creadigrwydd ac yn helpu’r disgyblion i ddatblygu gwerthfawrogiad cryfach o harddwch naturiol yr ardal, gan ddefnyddio deunyddiau naturiol ac ysbrydoliaeth o’r amgylchedd cyfagos.

Parhaodd yr antur ar y dŵr gyda Windswept Watersports, lle dysgodd y disgyblion sgiliau diogelwch dŵr hanfodol wrth weithio gyda’i gilydd ar badlfyrddau enfawr, gan feithrin gwaith tîm, gwydnwch a hyder mewn amgylchedd hwyliog a chefnogol.

Mae’r Diwrnodau Darganfod yn rhan o’r rhaglen Gwreiddiau, menter dysgu yn yr awyr agored sy’n dod â’r Cwricwlwm i Gymru yn fyw drwy brofiadau go iawn yn y Parc Cenedlaethol. Drwy archwilio Aber Daugleddau, ei bywyd gwyllt, ei thirweddau a’i chymunedau, mae disgyblion yn cael dealltwriaeth gryfach o’r amgylchedd naturiol wrth feithrin naws am le a chyfrifoldeb parhaol dros y byd o’u cwmpas.

Dywedodd Katie Macro, Cyfarwyddwr Elusen Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro: “Mae wedi bod yn wych gweld cynifer o bobl ifanc yn manteisio ar bob cyfle dros y ddau Ddiwrnod Darganfod. Mae pob profiad wedi helpu i ddod â thirweddau, diwylliant a chymunedau Sir Benfro yn fyw mewn ffordd hwyliog a diddorol, fel archwilio’r draethlin, rhoi cynnig ar weithgareddau newydd, a chwrdd â chynhyrchwyr ac artistiaid lleol.

“Mae’r Diwrnodau Darganfod yn dangos pŵer partneriaeth. Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i South Hook LNG am eu cefnogaeth barhaus, sy’n ein helpu i ddarparu profiadau awyr agored i fagu hyder, i ysbrydoli chwilfrydedd ac i greu cysylltiadau parhaol â thirweddau anhygoel Sir Benfro.”

Mae Gwreiddiau yn parhau i gefnogi miloedd o blant a phobl ifanc ledled Sir Benfro, gan ddarparu cyfleoedd cynhwysol i ddysgu, archwilio a ffynnu yn yr awyr agored ar yr un pryd â helpu i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o hyrwyddwyr amgylcheddol.