Diwrnodau allan rhatach dros yr haf i deuluoedd yn atyniadau Awdurdod y Parc
Bydd teuluoedd sy’n bwriadu ymweld â Chastell a Melin Heli Caeriw, Castell Henllys ac Oriel y Parc dros yr haf yn elwa o brisiau is ar docynnau, digwyddiadau a bocsys bwyd i blant rhwng 25 Mehefin a 1 Medi.
Mae’r gostyngiad pris dros dro yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i ostwng TAW o 20% i 5% ar brydau bwyd ar fwydlen plant, yn ogystal â gweithgareddau hamdden i deuluoedd cymwys yn ystod cyfnod yr haf.
Bydd tocynnau diwrnod cymwys i blant a theuluoedd yng Nghastell a Melin Heli Caeriw a Chastell Henllys yn cael eu cynnwys, ynghyd â digwyddiadau penodol fel theatr awyr agored, cyngherddau a’r Twrnamaint Ymwanu Canoloesol Mawr yng Nghaeriw. Bydd prisiau bocsys bwyd i blant o Ystafell De Nest yng Nghastell Caeriw hefyd yn gostwng.
Bydd y gostyngiadau’n cael eu rhoi’n awtomatig ar y til, neu wrth dalu ar-lein am archebion cymwys ar gyfer digwyddiadau.
Dywedodd James Parkin, Cyfarwyddwr Natur a Thwristiaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Mae gwyliau’r haf yn amser pwysig i deuluoedd fwynhau diwrnodau allan gyda’i gilydd, ond gwyddom y gall costau bentyrru’n gyflym.
Bydd y gostyngiad dros dro hwn yn helpu i wneud rhai ymweliadau, digwyddiadau a phrydau plant yn fwy fforddiadwy yn yr atyniadau sydd gan yr Awdurdod. Ein gobaith yw rhoi mwy o gyfleoedd i deuluoedd fwynhau’r Parc Cenedlaethol dros yr haf.
Mae Castell Caeriw, Castell Henllys ac Oriel y Parc i gyd yn cynnig rhywbeth gwahanol, megis treftadaeth, hanes ymarferol, digwyddiadau i deuluoedd, arddangosfeydd, bwyd a mannau awyr agored, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr dros yr wythnosau nesaf.”
I chwilio am ddigwyddiadau eraill sy’n cael eu cynnal ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro dros yr haf, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.
