Dewch i fwynhau hydref gwyllt yn Oriel y Parc

Posted On : 16/10/2026

Bydd bywyd gwyllt yr hydref, anturiaethau Calan Gaeaf a gweithgareddau creadigol i’r teulu i gyd yn llenwi Oriel y Parc, Canolfan Ddarganfod y Parc Cenedlaethol dros wyliau’r hanner tymor eleni. Mae gennym raglen lawn sydd wedi’i hysbrydoli gan y tymor a thirweddau arbennig yr unig Barc Cenedlaethol ym Mhrydain sy’n wirioneddol arfordirol.

Ddydd Sul 25 Hydref, bydd Gweithdy Creaduriaid y Nos yn rhoi sylw i nodweddion tywyll y tymor drwy archwilio byd cudd bywyd gwyllt y nos. A byddwn yn edrych ar thema’r nos mewn ffordd fwy creadigol yn y gweithdy creu penwisg ystlum ar ddydd Llun 26 Hydref a’r gweithdy creu anghenfil allan o glai ddydd Mercher 28 Hydref.

Nos Iau 29 Hydref, bydd un o Barcmyn y Parc Cenedlaethol yn tywys ymwelwyr ar Daith Gerdded Fiofflworoleuol Liw Nos drwy Dyddewi ac yn defnyddio thortshys uwchfioled i ddangos lliwiau llachar cuddiedig cennau, planhigion a phryfed bach.

Rydym yn gobeithio cynnal Diwrnod Afalau ddydd Iau 29 Hydref hefyd, os bydd digon o afalau ar gael. Gall yr ymwelwyr wneud sudd ffres gyda’u hafalau eu hunain, neu ddefnyddio ffrwythau sydd wedi’u casglu o berllan Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn Sain Ffraid. Yn ogystal â gwasgu’r sudd, bydd cyfle i’r teuluoedd rasio cychod afalau, creu teclynnau bwydo adar allan o afalau a chymryd rhan mewn pob math o weithgareddau tymhorol yn yr iard. Rydym yn argymell i unrhyw un sydd eisiau mynd â sudd adref gyda nhw ddod â chynhwysydd addas.

Bydd yr Helfa Swyn i Ddewiniaid yn cael ei chynnal drwy gydol gwyliau’r ysgol, gan ychwanegu at naws galan gaeaf yr oriel. Dyma gyfle i ymwelwyr ifanc chwilio drwy’r goedwig, y twr a’r iard, am y cynhwysion coll sydd eu hangen i gwblhau’r swyn a chael anrheg.

Dywedodd Rachel Perkins, Rheolwr Oriel y Parc:

“Mae hanner tymor yn gyfle i arafu, treulio amser gyda’ch gilydd a mwynhau gwneud pethau na fyddech fel arfer yn neilltuo amser ar ei gyfer. Mae ein digwyddiadau ym mis Hydref yn rhoi cyfle i deuluoedd archwilio, creu a darganfod gyda’i gilydd, gan ddechrau eu diwrnod yn Oriel y Parc a chrwydro i Dyddewi neu i weddill y Parc Cenedlaethol.”

Bydd yr arlwy’n parhau drwy gydol yr hydref, wrth i grefftwyr lleol ymuno â ni yn Ffair Grefftau Makers Bizarre ddydd Mawrth 27 Hydref, ac yn y Farchnad Grefftau Hydrefol ddydd Sadwrn 31 Hydref, a fydd yn cynnig crefftau cartref, a digonedd o syniadau anrhegion ar gyfer y Nadolig.

Bydd tair arddangosfa i’w gweld yn ystod y tymor hefyd, gan gynnwys: Helen Chadwick: Corff a Thirwedd, sy’n cynnwys gwaith a ysbrydolwyd gan dirwedd Sir Benfro; Wedi’i Denu at y Sain, arddangosfa amlsynhwyraidd gan Gymdeithas Gelfyddydau Abergwaun; a Chwaer- lannau, sy’n archwilio’r cysylltiadau rhwng arfordir Sir Benfro a Waterford.

Mae angen archebu lle ar gyfer y Gweithdy Creaduriaid y Nos a’r Daith Gerdded Fiofflworoleuol Liw Nos. Gellir galw heibio’r gweithgareddau eraill, oni nodir yn wahanol.

I gael manylion llawn a gwybodaeth archebu, ewch i www.orielyparc.co.uk.

 

An image of a barn owl against silvery clouds and a full moon.