Digwyddiadau gwasgu afalau Castell Caeriw mis Hydref yma SUDD yn rhad ac am ddim

Posted On : 24/09/2021

Gwahoddir aelodau’r cyhoedd i ddod â’u hafalau i ddeuddydd am ddim yng Nghastell Caeriw ym mis Hydref.

Gyda thymor y cynhaeaf afalau yn ei anterth, mae atyniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cynnig cyfle i droi unrhyw bentyrrau o’r ffrwyth maethlon hwn yn sudd blasus.

Cynhelir y digwyddiadau gwasgu afalau rhwng 10am ddydd Sadwrn 2 Hydref a dydd Sul 3 Hydref ar dir Castell Caeriw, lle bydd y Parcmon Chris wrth law gyda gwasg afalau.

Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Gwasanaethau Ymwelwyr yng Nghastell Caeriw:  “Hwn yw’r adeg o’r flwyddyn pan fydd afalau ar eu gorau ac mae llawer o bobl yn darganfod bod ganddyn nhw ormodedd dros ben. Mae’r diwrnodau gwasgu afalau am ddim yn gyfle perffaith i ddod at ei gilydd gyda ffrindiau a theulu mewn awyrgylch braf a mwynhau sudd ffres.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu gwesteion o bob oedran i’r digwyddiadau hyn. Nid oes ffi mynediad, a’r unig ofyniad i’r rhai sy’n dod draw yw eu bod yn dod â rhai afalau a chynhwysydd i’w sudd gyda nhw, a’u bod yn barod i roi cynnig arni.”

I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.