Cymuned yn cefnogi cynllun cadeiriau olwyn y traeth ar ôl i fandaliaeth sbarduno dicter ymysg y cyhoedd
Mae apêl codi arian sy’n gobeithio codi £15,000 wedi cael ei lansio ar ôl i gadair olwyn y traeth gael ei fandaleiddio yn Llanusyllt, gan sbarduno cannoedd o negeseuon o ddicter, caredigrwydd a chefnogaeth gan y gymuned leol.
Cafodd dau deiar arbenigol a braich eu tynnu oddi ar y gadair ddydd Mawrth 26 Mai, gan achosi gwerth £600 o ddifrod. Mae cost y digwyddiad cyfwerth â’r holl roddion a dderbyniwyd ar gyfer y cynllun y llynedd.
Mae’r gadair sydd wedi’i difrodi yn rhan o brosiect ehangach Symudedd Awyr Agored Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, sy’n helpu pobl sydd â heriau symudedd i gael mynediad at draethau, llwybrau arfordirol, a mannau awyr agored yn y Parc Cenedlaethol.
Ers ei lansio yn 2007 gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, mae’r cynllun cadeiriau olwyn y traeth yn dibynnu ar rwydwaith o fusnesau, caffis, a chanolfannau gweithgareddau lleol, i gynnal yr offer ledled Sir Benfro. Mae’r presenoldeb lleol, yn ogystal â rhoddion hael o gyllid ac offer gan y cyhoedd, yn sicrhau bod y cymhorthion symud arbenigol hyn ar gael yn y llefydd y gallent wneud y gwahaniaeth mwyaf.
Mae effaith y prosiect yn syml, ond yn fawr: mae’n rhoi’r cyfle i bobl gael mynediad at lefydd, a mwynhau adegau y byddent yn eu colli fel arall. I rai, mae hyn yn golygu ymuno â’u teulu ar y traeth yn hytrach na’u gwylio o’r cyrion. I eraill, mae’n golygu dychwelyd at y môr ar ôl blynyddoedd heb glywed sŵn y tonnau’n taro’r lan, neu dreulio amser gwerthfawr mewn ardal arfordirol sy’n agos at eu calon wrth gael gofal diwedd oes. Yn 2025, cafodd y cadeiriau olwyn y traeth eu defnyddio dros 900 o weithiau.
Nod yr apêl yw troi’r difrod yn Llanusyllt yn rhywbeth cadarnhaol i’r prosiect cyfan. Er bod angen tua £600 i drwsio’r gadair sydd wedi’i fandaleiddio, byddai cyrraedd y targed ehangach o £15,000 yn helpu i dalu am offer hanfodol newydd, creu storfeydd diogel gwell a rhoi rhagor o gyfleoedd i bobl o bob oed a gallu i fwynhau arfordir Sir Benfro.
Dywedodd Katie Macro, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro: “Yr hyn sydd wedi dod i’r amlwg dros y dyddiau diwethaf yw cymaint y mae pobl yn ei feddwl o’r gwasanaeth hwn. Mae pobl yn ddig am yr hyn a ddigwyddodd yn Llanusyllt, ond mae’r dicter hwnnw wedi arwain at garedigrwydd, ac mae nifer o bobl wedi gofyn sut gallan nhw helpu.
“Nid dyma’r digwyddiad rydym ni am i bobl ei gofio. Rydym ni am i bobl gofio am y gymuned a ddaeth at ei gilydd er mwyn helpu i roi mynediad gwell at yr arfordir i fwy o bobl – a bydd pob rhodd yn ein helpu i gymryd y cam nesaf wrth fynd ati i wneud hynny.”
Mae cadair olwyn y traeth dros dro ar gael yn Llanusyllt tra bod trefniadau’n cael eu gwneud i drwsio’r gadair sydd wedi’i difrodi, gan helpu i sicrhau bod y gwasanaeth yn dal i redeg i’r bobl sydd ei angen.
Rydym ni wedi rhoi gwybod i Heddlu Dyfed-Powys am y digwyddiad, ac mae lluniau teledu cylch cyfyng wrthi’n cael eu hadolygu. Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu.
Gellir cyfrannu at yr apêl drwy dudalen JustGiving Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro:www.justgiving.com/campaign/pembrokeshirebeachwheelchairs.