Cyfle i ffermwyr Sir Benfro gyflwyno Datganiad o Ddiddordeb yn rhaglen Ffermio Bro
Mae ffermwyr a rheolwyr tir yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cael eu hannog i wneud cais am y rownd nesaf o gymorth gan Ffermio Bro, ac mae’r cyfnod nesaf i ddangos diddordeb ar agor yn swyddogol.
Mae Ffermio Bro yn cefnogi prosiectau ymarferol sy’n cael eu harwain gan ffermwyr ac sy’n helpu i sicrhau canlyniadau cadarnhaol i fyd natur, ansawdd dŵr, cysylltedd cynefinoedd, ffiniau traddodiadol, y gallu i wrthsefyll tannau gwyllt, a’r dirwedd ffermio ehangach ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Ar ôl cael blwyddyn gyntaf lwyddiannus, mae’r rhaglen eisoes wedi cefnogi amrywiaeth eang o brosiectau ledled Sir Benfro, gan gynnwys adfer cynefinoedd, ffensio ar hyd cyrsiau dŵr, adfer ffiniau traddodiadol, creu dulliau i atal tân, a gwaith cysylltu coetiroedd.
Yn ystod y flwyddyn gyntaf, mae’r rhaglen wedi cefnogi:
- 37 o ffermydd a rheolwyr tir ar draws y Parc Cenedlaethol
- Prosiectau sy’n cwmpasu ychydig o dan 3,000 hectar
- Y gwaith o greu ac adfer dros 4 cilomedr o wrychoedd
- Dros 800 metr o waith gwella a diogelu cyrsiau dŵr
- Cymorth a rheolaeth coetiroedd ar oddeutu 27 hectar
- Amrywiaeth o brosiectau cydweithredol sy’n canolbwyntio ar wella bioamrywiaeth a gwydnwch yr ecosystem ar draws y Parc Cenedlaethol.
Dywedodd Arwel Evans, Swyddog Cyswllt Cadwraeth Ffermydd gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Mae blwyddyn gyntaf Ffermio Bro wedi dangos beth y gellir ei gyflawni pan fo ffermwyr a rheolwyr tir yn cael eu cefnogi i gyflawni gwaith cadwraeth ar y tir.
“Rydym ni wedi gweithio gyda ffermydd ym mhob rhan o’r Parc Cenedlaethol ar brosiectau amrywiol, gan gynnwys adfer cynefinoedd, gwella ansawdd dŵr, gwaith ffiniau traddodiadol a’r gallu i wrthsefyll tanau gwyllt.
“Wrth edrych ymlaen at y ddwy flynedd nesaf, rydym ni’n awyddus iawn i gefnogi prosiectau sy’n gwella ansawdd dŵr a gwydnwch afonydd mewn dalgylchoedd fel Cleddau Wen a Chleddau Ddu, Nyfer a Gwaun. Mae hyn yn cynnwys rhoi mesurau ymarferol ar waith fel ffensio ar hyd glannau afonydd, gosod lleiniau clustogi, creu pridd iachach a rheoli cynefinoedd sy’n helpu i gadw afonydd yn lân ac yn wydn ar gyfer y dyfodol.”
Ychwanegodd Gareth Waters, Cynghorydd Ffermio Bro: “Un o gryfderau’r cynllun yw bod y prosiectau’n cael eu cynllunio a’u teilwra i weddu i ffermwyr unigol a blaenoriaethau lleol.
“Rydym ni’n awyddus i gefnogi prosiectau ymarferol sy’n arwain at fanteision tymor hir i fusnesau ffermio a’r dirwedd, ac rydym ni’n annog unrhyw ffermwyr sydd â diddordeb i gysylltu â ni cyn y dyddiad cau.”
Bydd y cyfnod ymgeisio ar gyfer Ffermio Bro: Ffermio ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar agor tan ddydd Llun 22 Mehefin 2026.
Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun, manylion cymhwysedd a chyfarwyddiadau ar sut i gyflwyno Datganiad o Ddiddordeb ar gael yma: www.arfordirpenfro.cymru//ffermio-bro.