Coroni Pencampwr mewn twrnamaint ymwanu yng Nghastell Caeriw

Posted On : 22/06/2026

Mae Castell Caeriw yn paratoi i goroni ei bencampwr ymwanu cyntaf yn yr 21ain ganrif, wrth i’r gystadleuaeth ddychwelyd ym mis Gorffennaf.

Cynhelir y digwyddiad ddydd Sadwrn 4 a dydd Sul 5 Gorffennaf, a bydd marchogion arfog yn cystadlu am bwyntiau, balchder a’r teitl, yng nghefndir dramatig un o gestyll mwyaf atmosfferig Cymru.

Bydd ymwelwyr yn profi awyrgylch twrnamaint canoloesol, y tensiwn cyn y rhuthr taranau’r carnau ar lawr, arfwisgoedd yn clecian, a’r gwaywffyn yn taro. Does dim byd wedi’i benderfynu ymlaen llaw. Bydd pob brwydr yn brawf gwirioneddol o farchogaeth, sgiliau a dewrder, ar ôl i’r gystadleuaeth derfynol orffen bydd y pencampwr yn cael ei goroni.

Bydd y twrnamaint yn cael ei gyflwyno gan Griffin Historical, marchogion sydd â blynyddoedd o brofiad o leoliadau a chystadlaethau hanesyddol ledled y DU ac Ewrop.

Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell Caeriw: “Mae rhywbeth pwerus iawn am weld hanes yn dod yn fyw. Mae gan y digwyddiad hwn y lliw a’r ysblander y mae pobl yn eu disgwyl o dwrnamaint canoloesol, ond yn ei hanfod mae’n gystadleuaeth chwaraeon go iawn. Mae’r rhain yn farchogion medrus sy’n cystadlu am bwyntiau a buddugoliaeth, nid perfformiad ffug gyda diweddglo wedi’i benderfynu ymlaen llaw. Nid oes neb yn gwybod pwy fydd yn cael ei goroni’n bencampwr nes i’r waywffon olaf daro’i darged, sy’n dod ag ymdeimlad gwirioneddol o densiwn a chyffro i faes y frwydr.“

Mae hanes ymwanu yng Nghastell Caeriw yn dyddio’n ôl i 1507, pan wnaeth Syr Rhys ap Thomas nodi ei benodiad i Urdd y Gardas drwy gynnal twrnamaint pum diwrnod yn y Castell.

Ochr yn ochr â’r brif gystadleuaeth, gall ymwelwyr fwynhau gwersyll canoloesol, perfformiadau mewn gwisgoedd o’r cyfnod, crefftau traddodiadol, rhoi cynnig ar saethyddiaeth, cystadleuaeth tynnu lluniau i blant, arddangosfeydd hyfforddi militia a gornestau.

Cynhelir y Twrnamaint Ymwanu Fawr Ganoloesol yng Nghastell Caeriw, sy’n cael ei reoli gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ddydd Sadwrn 4 a dydd Sul 5 Gorffennaf, rhwng 10am a 4pm. Yn ystod y penwythnos hwn, rhaid archebu tocyn Ymwanu ymlaen llaw i gael mynediad i’r Castell.

Ewch i www.castellcaeriw.com i archebu tocynnau ac i gael gwybodaeth lawn.