Castell Caeriw yn paratoi ar gyfer haf o gampau, peiriannau gwarchae ac anturiaethau i’r teulu

Posted On : 16/07/2026

Gall teuluoedd edrych ymlaen at haf o gistiau trysor, straeon arswydus o’r gorffennol a pheiriant gwarchae enfawr yn taranu yn un o dirnodau canoloesol mwyaf trawiadol Sir Benfro.

Rhwng dydd Sadwrn 18 Gorffennaf a dydd Llun 31 Awst, bydd Castell Caeriw yn cynnal rhaglen wyliau lawn sydd wedi’i dylunio i ddod â’i dyrau, ei goridorau a’i diroedd yn fyw. Bydd llwybrau cerdded, gweithgareddau canoloesol, theatr awyr agored, archaeoleg, hanes byw ac anturiaethau ymarferol dyddiol i ymwelwyr eu mwynhau.

Bydd Diwrnodau Antur canoloesol o ddydd Sul i ddydd Iau bob wythnos rhwng 19 Gorffennaf a 27 Awst. Gall ymwelwyr ifanc ddilyn llwybr y Maes Profi am ddim, gloywi eu sgiliau yn yr Ysgol Marchogion, Rhoi Cynnig ar Saethyddiaeth a darganfod pa mor swnllyd a chyffrous y gallai bywyd y Castell fod.

Mae’r rhaglen ddyddiol ar y diwrnodau hyn hefyd yn cynnwys Hanesion Hyll am 11am, gan ddod â straeon anghynnes y Castell yn fyw i ymwelwyr iau, ac yna gweithgaredd rhyngweithiol Canfod yr Allwedd! am 3pm – y ddau ddigwyddiad wedi’u cynnwys ym mhris mynediad arferol i’r Castell.

I’r rheini sydd â diddordeb mewn grym canoloesol ar raddfa lawer mwy, bydd magnel enfawr Caeriw yn cael ei thanio bob dydd Mawrth rhwng 21 Gorffennaf a 25 Awst am 2.30pm, gan ddatgelu sut roedd pŵer, peirianneg a mentrusrwydd yn rhan o’r gwaith brwnt o ymosod ar gastell.

Gyda’r nos, bydd tir y Castell yn dod yn llwyfan ar gyfer cyffro, cerddoriaeth ac adrodd straeon hynod, gyda pherfformiadau awyr agored o Sherlock Holmes a The Hound of the Baskervilles ddydd Iau 30 Gorffennaf a The Jungle Book ddydd Mawrth 4 Awst. Mae angen archebu lle o flaen llaw.

Bydd straeon go iawn y Castell hefyd yn dod i’r amlwg yr haf hwn. Ddydd Llun 3 Awst, bydd Datgelu Hanes: Sir Benfro’r Oes a Fu yn dod ag archaeoleg leol i Gaeriw. Rhwng 10am a 4pm, bydd y digwyddiad yn gwahodd ymwelwyr i gamu y tu ôl i’r llenni, gydag arbenigwyr wrth law i ddatgelu sut gall darganfyddiadau bach, tystiolaeth wedi’i chladdu a darnau o fywyd bob dydd helpu i ddatgloi straeon o ganrifoedd yn ôl. Bydd sgyrsiau, gemau a gweithgareddau ymarferol i blant drwy gydol y dydd hefyd, ochr yn ochr ag Ysgol Marchogion a Rhoi Cynnig ar Saethyddiaeth.

Dros benwythnos gŵyl y banc mis Awst, bydd Castell Caeriw yn llawn o ryfelwyr, arfau a golygfeydd a synau gwersyll o’r 12fed ganrif. Yn ystod y digwyddiad tri diwrnod, bydd Historia Normannis yn dod â bywyd canoloesol i dir y Castell gyda rhyfelwyr yn ymladd ac arddangosfeydd sgiliau ac arfau traddodiadol, gan roi cipolwg agos i ymwelwyr ar sut roedd milwyr yn hyfforddi, yn ymladd ac yn byw. Bydd y gweithgareddau’n cael eu cynnal rhwng 10am a 4pm bob dydd, a bydd Rhoi Cynnig ar Saethyddiaeth ar gael hefyd.

Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell Caeriw:

“Mae Caeriw yn lle gwych i blant adael i’w dychymyg grwydro. Mae ganddo’r gymysgedd brin honno o le, dirgelwch a syrpreis sy’n troi diwrnod allan yn rhywbeth y mae plant yn dal i siarad amdano ar y ffordd adref.

“Rydyn ni wedi llunio rhaglen yr haf er mwyn i deuluoedd allu cynllunio eu diwrnod eu hunain, p’un ai ydyn nhw’n dod ar gyfer eu hoff ddigwyddiad, yn dod ar draws rhywbeth annisgwyl, neu’n mwynhau bod yn rhywle sy’n teimlo’n llawn antur.”

I gael manylion llawn rhaglen gwyliau haf Castell Caeriw, gan gynnwys amseroedd y digwyddiadau a gwybodaeth archebu, ewch i www.castellcaeriw.com.

A little boy standing in the grounds of Carew Castle, a red and black shield and wooden sword in his hand.