Gwahodd busnesau i hysbysebu mewn rhifyn arbennig o O Lan i Lan

Posted On : 12/10/2026

Mae busnesau lleol yn cael eu gwahodd i hysbysebu yn y 45ain rhifyn o O Lan i Lan, cylchgrawn o’r radd flaenaf i ymwelwyr gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a fydd yn cael ei gyhoeddi cyn Pasg 2027.

Bydd y cyhoeddiad yn rhan o ddathliadau pen-blwydd y Parc yn 75 oed, a bydd y cylchgrawn unwaith eto’n cael ei ddosbarthu mewn cannoedd o leoliadau ledled Sir Benfro, gan gyrraedd dros filiwn o ddarllenwyr yn ystod y tymor brig.

Dywedodd Marie Parkin, Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata’r Awdurdod: “Ers dros bedwar degawd, mae O Lan i Lan wedi bod yn helpu pobl i wneud y gorau o’u hamser yn y Parc Cenedlaethol, p’un a ydyn nhw’n chwilio am lefydd i grwydro, diwrnodau allan i’r teulu neu wybodaeth ymarferol i’w helpu i fynd o le i le.

“Bydd gan y rhifyn eleni arwyddocâd ychwanegol wrth i ni ddathlu pen-blwydd y Parc Cenedlaethol, ac rydyn ni’n awyddus i fusnesau lleol fod yn rhan ohono.

“Dyma gyfle i hysbysebu i gynulleidfa fawr ar adeg pan fo ymwelwyr wrthi’n gwneud dewisiadau am le i fynd, beth i’w wneud a ble i wario.”

Yn ogystal ag erthyglau am dirweddau, bywyd gwyllt, diwylliant a threftadaeth y Parc, mae’r cylchgrawn yn cynnwys mapiau, gwybodaeth am fysiau, tablau llanw’r môr, manylion am atyniadau, gweithgareddau a digwyddiadau.

Mae llefydd hysbysebu ar gael yn rhifyn 2027, a’r dyddiad cau i archebu eich lle yw dechrau mis Rhagfyr.

I gael rhagor o wybodaeth am hysbysebu yn O Lan i Lan, anfonwch e-bost at hysbysebu@arfordirpenfro.org.uk, neu ffoniwch 01646 624895.

The cover of Coast to Coast 2026, featuring a puffin with fish in its mouth.