Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn dathlu gwobr RTPI Cymru am brosiect adfywio Harbwr Llanusyllt

Posted On : 01/07/2026

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau’r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI) yng Nghymru am Ragoriaeth ym Maes Cynllunio 2026, ar ôl i Gam 2 Prosiect Ailddatblygu Harbwr Llanusyllt gael ei enwi fel y Prosiect Gorau.

Mae’r wobr yn cydnabod rôl cynllunio o ran cefnogi’r gwaith o drawsnewid Harbwr Llanusyllt yn gyrchfan gydnerth drwy gydol y flwyddyn, sydd â chyfleusterau masnachol, cymunedol a chyfleusterau newydd i ymwelwyr yn helpu i gefnogi busnesau lleol, mynediad i’r cyhoedd, digwyddiadau ac adfywio ehangach.

Cyflawnwyd y prosiect gan Harbwr Llanusyllt gyda mewnbwn cynllunio gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ac fe’i canmolwyd gan y beirniaid fel “enghraifft o gydnerthedd economaidd arfordirol mewn anheddiad llai” ac “enghraifft dda iawn o gynllunio sy’n galluogi adfywio ar sail lleoedd.”

Tynnodd y beirniaid sylw at fanteision economaidd a chymunedol clir y prosiect, gan gynnwys buddsoddi, creu swyddi, mannau newydd i fusnesau lleol, digwyddiadau mawr, gweithgarwch drwy gydol y flwyddyn, gwell mynediad i’r cyhoedd, ac ailddefnyddio asedau tir llwyd a threftadaeth. Roeddent hefyd yn cydnabod rôl cynllunwyr o ran mynd i’r afael â newidiadau yn ymwneud â dylunio, materion ardaloedd cadwraeth, risg llifogydd, hygyrchedd a chydlynu nifer o gynlluniau cysylltiedig mewn harbwr gweithredol.

Dywedodd Sara Morris, Cyfarwyddwr Lleoedd ac Ymgysylltu Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Rydyn ni’n falch iawn bod Cam 2 Prosiect Ailddatblygu Harbwr Llanusyllt wedi cael ei gydnabod gan RTPI Cymru.

Mae’r wobr hon yn brawf o werth cynllunio da wrth helpu lleoedd i addasu, ffynnu a sicrhau manteision parhaol i’w cymunedau. Mae Harbwr Llanusyllt yn lleoliad hynod bwysig, yn lleol ac yn strategol, ac mae’r prosiect hwn yn dangos sut mae cynllunio gofalus yn gallu cefnogi adfywiad, gan hefyd barchu cymeriad, treftadaeth a heriau amgylcheddol lleoliad arfordirol. Hoffwn ddiolch yn arbennig i Andrew Richards a Nicola Gandy a fu’n arwain agweddau cynllunio’r prosiect ar ran yr Awdurdod.

Mae sylwadau’r beirniaid yn pwysleisio cryfder y dull partneriaeth sydd y tu ôl i’r prosiect, ac rydyn ni’n falch iawn o weld gwaith ein tîm cynllunio’n cael ei gydnabod ochr yn ochr ag uchelgais ac ymrwymiad Harbwr Llanusyllt. Gwaith sylweddol yr Harbwr, busnesau lleol a’r gymuned sy’n gyfrifol am y cynllun terfynol sydd wedi’i gyflawni, ac maen nhw wedi trawsnewid yr hyn sydd gan Llanusyllt i’w gynnig.”

Dywedodd Ted Sangster, Cadeirydd Comisiwn Harbwr Llanusyllt: “Hoffai Harbwr Llanusyllt longyfarch Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar y wobr hon. Fel porthladd ymddiriedolaeth, rydyn ni’n gweithredu fel busnes masnachol i raddau helaeth ond heb gyfranddalwyr (ac felly does dim difidendau i’w talu) a’n strategaeth ni yw rhoi budd hirdymor gwirioneddol i’n cymuned ac i holl ddefnyddwyr yr harbwr.

“Mae Ail Gam llwyddiannus datblygiad yr harbwr bellach yn cynnig harbwr pysgota a hwylio hamdden ac atyniad i ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn sy’n gwasanaethu sylfaen o ddefnyddwyr amrywiol sy’n tyfu, ac mae wedi creu tua 100 o swyddi newydd hyd yma. Mae ein gwaith gyda busnesau a rhanddeiliaid lleol wedi cael ei gynorthwyo a’i gefnogi’n fawr gan y bartneriaeth agored ac ymgynghorol gydag Awdurdod y Parc, sy’n seiliedig ar y nod cyffredin o sicrhau canlyniadau economaidd cynaliadwy a rhoi budd cymdeithasol i’n cymuned.”

Fel enillydd y categori Prosiect Gorau yng Nghymru, bydd prosiect Harbwr Llanusyllt hefyd yn cael ei gynnwys yn awtomatig yn rownd derfynol Gwobrau Cenedlaethol y DU am Ragoriaeth ym Maes Cynllunio. Bydd y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol genedlaethol yn cael eu cyhoeddi’n ffurfiol gan RTPI ar 7 Hydref 2026, cyn rowndiau terfynol cenedlaethol y DU ar 3 Rhagfyr.

Mae’r Awdurdod hefyd yn falch o nodi bod Canllawiau Awyr Dywyll Cymru, a ddatblygwyd gan weithgor o bob cwr o Gymru, gan gynnwys y Prif Swyddog Cynllunio (Polisi Strategol) Gayle Lister, wedi ennill Gwobr y Cadeirydd yng Ngwobrau RTPI Cymru am Ragoriaeth ym Maes Cynllunio 2026.

Ychwanegodd Sara: “Mae’n arbennig o braf gweld Canllawiau Awyr Dywyll Cymru yn cael eu cydnabod ochr yn ochr â phrosiect Harbwr Llanusyllt. Mae gwarchod yr awyr dywyll yn rhan bwysig o ofalu am rinweddau arbennig tirweddau Cymru, ac mae’r canllawiau hyn yn adlewyrchu gwerth cydweithio ar draws disgyblaethau cynllunio, cadwraeth a’r amgylchedd.”

Mae Gwobrau RTPI Cymru am Ragoriaeth ym Maes Cynllunio yn dathlu cynlluniau, prosiectau a phobl eithriadol sy’n dangos sut gall cynllunio wneud gwahaniaeth cadarnhaol i leoedd a chymunedau.

Mae rhagor o wybodaeth am Wobrau RTPI am Ragoriaeth ym Maes Cynllunio ar gael yn www.rtpi.org.uk/excellence.