Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cadarnhau Cadeirydd a rolau pwyllgor yn dilyn y Cyfarfod Blynyddol
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi cadarnhau bod ei gadeirydd, ei is-gadeirydd a chadeirydd ac is-gadeirydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu wedi cael eu hailethol yn dilyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
Mae Dr Madeleine Havard wedi cael ei hailethol yn Gadeirydd yr Awdurdod, a’r Cynghorydd Claire George wedi cael ei hailethol yn Is-gadeirydd. Mae’r Cynghorydd Dr Simon Hancock hefyd wedi cael ei ailethol yn Gadeirydd Pwyllgor Rheoli Datblygu’r Awdurdod, gyda John Hogg yn ddirprwy iddo.
Cytunodd yr Aelodau ar y rolau mewn cyfarfod o Awdurdod y Parc Cenedlaethol a gynhaliwyd ddydd Mercher, 24 Mehefin 2026.
Mae’r Awdurdod yn cynnwys 18 o Aelodau, gyda 12 o Gynghorwyr Sir wedi’u penodi gan Gyngor Sir Penfro a chwech o Aelodau wedi’u penodi gan Lywodraeth Cymru. Gyda’i gilydd, maent yn goruchwylio gwaith yr Awdurdod ac yn gwneud penderfyniadau ar faterion sy’n effeithio ar Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Meddai Dr Havard: “Mae’n anrhydedd a braint parhau i wasanaethu fel Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae ein Parc Cenedlaethol yn un o drysorau tirweddol mwyaf Cymru, ac mae gan yr Awdurdod rôl nodedig i’w chwarae wrth ei ddiogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ac wrth gefnogi’r cymunedau sy’n byw ac yn gweithio yma.”
“Rwy’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda’r holl Aelodau eraill, y staff, partneriaid a chymunedau lleol wrth i ni ymateb i’r cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu’r Parc Cenedlaethol.”
Dywedodd y Cynghorydd Dr Simon Hancock: “Rwy’n falch o gael parhau fel Cadeirydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu, sy’n chwarae rôl bwysig wrth ystyried materion cynllunio o fewn y Parc Cenedlaethol.”
“Mae gwaith y Pwyllgor yn gofyn am farn ofalus, gan gydbwyso’r angen i ddiogelu a gwella’r dirwedd arbennig hon ag anghenion pobl lleol. Rwy’n edrych ymlaen at barhau i weithio gydag aelodau eraill a swyddogion wrth gyflawni’r cyfrifoldeb hwn.”
Mae’r Aelodau’n treulio dau ddiwrnod y mis ar gyfartaledd ar fusnes pwyllgor ffurfiol, yn ogystal â chynrychioli Awdurdod y Parc mewn ystod o ddigwyddiadau ffurfiol ac anffurfiol. Mae’r rhain yn cynnwys cyfarfodydd sy’n gysylltiedig â Llywodraeth Cymru, gweithdai a seminarau, ynghyd â lansiadau a chyflwyniadau ffurfiol gan yr Awdurdod a sefydliadau partner.
Aelodau cyfredol Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yw’r Cynghorydd Maureen Bowen, y Cynghorydd Di Clements, Ms Fiona Day, y Cynghorydd Claire George, Dr Madeleine Havard, Ms Helen Gwenllian, Mr John Hogg MBE, Sarah Hoss, y Cynghorydd Dr Simon Hancock MBE, y Cynghorydd Mike James, Mr Gwynn Angell Jones, y Cynghorydd Huw Murphy, y Cynghorydd Bethan Price, y Cynghorydd Sam Skyrme-Blackhall, y Cynghorydd Anji Tinley, y Cynghorydd Vanessa Thomas, y Cynghorydd Chris Williams BEM a’r Cynghorydd Michael Williams.