Awdurdod Parc Cenedlaethol yn cyhoeddi adroddiad ar Safonau’r Gymraeg

Posted On : 07/07/2026

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol ar Safonau’r Gymraeg ar gyfer mis Ebrill 2025 i fis Mawrth 2026. Mae’r adroddiad yn nodi’r cynnydd a wnaed gan yr Awdurdod yn ystod y flwyddyn o ran cyflawni ei ddyletswyddau o dan Safonau’r Gymraeg, sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru ddarparu gwasanaethau a chyfathrebu â’r cyhoedd yn Gymraeg.

Ochr yn ochr â chyflawni ei ddyletswyddau statudol, mae gwaith yr Awdurdod o dan y Safonau yn adlewyrchu cymaint y mae llawer o bobl leol yn gwerthfawrogi cael gwybodaeth a gwasanaethau yn yr iaith y maent yn ei defnyddio bob dydd.

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn darparu’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer y Safonau, gan osod dyletswyddau ar sefydliadau cyhoeddus, gan gynnwys Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, i gefnogi a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg.

Dywedodd Tegryn Jones, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Mae’r Gymraeg yn ganolog i hunaniaeth, diwylliant a bywyd bob dydd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

“Fel Awdurdod, rydym yn cydnabod ein cyfrifoldeb i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, a hefyd i helpu i greu’r amgylchiadau lle mae modd defnyddio’r Gymraeg yn naturiol a hyderus.

“I lawer o bobl yn Sir Benfro, y Gymraeg yw iaith y cartref, y teulu a’r gymuned, ac mae’n bwysig eu bod yn gallu cyfathrebu â’r Awdurdod yn eu hiaith gyntaf.

“Mae’r gwaith hwn yn cael ei adlewyrchu ar draws gwasanaethau’r Awdurdod, o’r ffordd rydym yn rhannu gwybodaeth â’r cyhoedd i’n gwaith gydag ysgolion, cymunedau, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr.

“Mae’r Adroddiad Blynyddol yn gyfle i edrych ar yr hyn sydd wedi’i gyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gydnabod hefyd lle mae modd gwneud rhagor o gynnydd.”

Mae ymrwymiad Awdurdod y Parc Cenedlaethol i’r Gymraeg yn cael ei adlewyrchu hefyd yn ei Strategaeth ar gyfer y Gymraeg, Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol a Chynllun Datblygu Lleol 2.

Mae’r Adroddiad Blynyddol cyfan ar gyfer Safonau’r Gymraeg ar gael yn:
www.arfordirpenfro.cymru/safonaur-gymraeg/.