ARTIST ROOMS yn dod ag arddangosfa fawr Helen Chadwick i Oriel y Parc
Bydd arddangosfa fawr o waith gan Helen Chadwick, a fydd yn dangos, am y tro cyntaf, ei chyfres Viral Landscapes yn y dirwedd a’i hysbrydolwyd, yn agor yn Oriel y Parc, Canolfan Ddarganfod y Parc Cenedlaethol yr haf hwn, gan ddod â chelf gyfoes sy’n adnabyddus yn rhyngwladol i ganol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Bydd Helen Chadwick: Corff a Thirwedd yn cael ei gynnal rhwng 11 Gorffennaf 2026 a 10 Ionawr 2027. Wedi’i ddatblygu drwy bartneriaeth Oriel y Parc ag Amgueddfa Cymru, trefnir yr arddangosfa fel rhan o ARTIST ROOMS, sef rhaglen deithiol Tate ac Orielau Cenedlaethol yr Alban sy’n cyflwyno gwaith artistiaid rhyngwladol mewn arddangosfeydd unigol.
Dywedodd Bryony White, Uwch-guradur yn Amgueddfa Cymru: “Roedd Helen Chadwick yn ffigwr gwirioneddol wreiddiol. Trwy ei hymdriniaeth radical ac unigryw o gelf a syniadau, cynhyrchodd gorff o waith sy’n cadw ei berthnasoldeb a’i bŵer, hyd yn oed heddiw. Rydym wrth ein bodd yn cydweithio ag Oriel y Parc i gyflwyno’r arddangosfa hon yn Sir Benfro lle, am y tro cyntaf, bydd ymwelwyr yn gallu profi a mwynhau rhai o Viral Landscapes Chadwick yn y tirlun a roddodd ysbrydoliaeth iddynt.”
Roedd Chadwick yn un o artistiaid mwyaf radical a dyfeisgar ei hoes, a bu’n gweithio ar gerflunwaith, ffotograffiaeth a gosodwaith, gan ddefnyddio deunyddiau mewn ffyrdd beiddgar ac annisgwyl i ddelio â syniadau am yr hunan, rhywedd, y corff a byd natur.
Bydd yr arddangosfa’n taro tant arbennig ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, gan mai dyma’r tirlun a ysbrydolodd gyfres Viral Landscapes Chadwick. Crëwyd y gyfres hon rhwng 1988 ac 1989 ar ôl iddi dderbyn comisiwn Artistiaid mewn Parciau Cenedlaethol gan Amgueddfa Victoria ac Albert.
Wrth gerdded Llwybr yr Arfordir rhwng Abergwaun a Chastellmartin, tynnodd lun o fan cyfarfod y tir a’r môr, gan nodi ei effaith bwerus ar ei synhwyrau a’i hymdeimlad o’i hunan. Dyma’r tro cyntaf i’r gweithiau hyn gael eu harddangos yn y dirwedd a’u hysbrydolodd.
Bydd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys ei gosodiad enwog Piss Flowers (1991-2) a gweithiau ffotograffig o gasgliad Tate sy’n dangos gwreiddioldeb a bywiogrwydd arfer creadigol Chadwick. Cafodd y gweithiau hyn eu harddangos yn ddiweddar fel rhan o gyflwyniadau ARTIST ROOMS yn Tate Modern yn Llundain ac Orielau Cenedlaethol yr Alban yng Nghaeredin.
Er iddi farw’n sydyn yn 1996 yn 42 oed, mae ei chasgliad toreithiog o waith a’i hymroddiad i addysgu wedi dylanwadu’n fawr ar y genhedlaeth nesaf o artistiaid ym Mhrydain a’r tu hwnt.
Dywedodd James Parkin, Cyfarwyddwr Natur a Thwristiaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Mae gan waith Helen Chadwick gysylltiad cryf â Sir Benfro, ac arbennig iawn yw dod â darnau o’i chyfres Viral Landscapes yn ôl i’r dirwedd a helpodd i’w creu.”
“Mae’r arddangosfa hon yn adlewyrchu cryfder Oriel y Parc fel oriel genedlaethol o bwys, a phwysigrwydd ein partneriaeth ag Amgueddfa Cymru, Tate ac Orielau Cenedlaethol yr Alban. Mae’n rhoi cyfle prin i ymwelwyr brofi celf gyfoes bwysig mewn cysylltiad uniongyrchol ag un o’r tirweddau gwarchodedig mwyaf rhyfeddol yn y DU.”
Bydd arddangosfa Helen Chadwick: Corff a Thirwedd i’w gweld yn Oriel y Parc rhwng 11 Gorffennaf 2026 a 10 Ionawr 2027. Mynediad am ddim.
Manylion credyd:
Viral Landscape #3 © Ystâd Helen Chadwick, trwy garedigrwydd Oriel Richard Saltoun
Credyd am y ddelwedd bortread:
© Kippa Matthews. Trwy garedigrwydd Ystâd Helen Chadwick ac Oriel Richard Saltoun
