Adrodd straeon, bywyd morol a chwedlau teithio drwy amser ar stondin Awdurdod y Parc yn Sioe Sir Benfro
Bydd amrywiaeth o weithgareddau ar gael yn stondin Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn Sioe Sir Benfro 2026, gyda’r nod o annog pobl i ddysgu mwy am y Parc, ei fywyd gwyllt a sut y gall pawb chwarae eu rhan i droedio’n ysgafn a diogelu ei ddyfodol.
Wedi’i lleoli ar gornel y Prif Rodfa a’r Rhodfa Ganolog, bydd gan stondin Awdurdod y Parc ddigon i ddiddanu a rhoi gwybodaeth i bobl o bob oed, o straeon teithio drwy amser a chrefftau ar thema gwyfynod i acwariwm bywyd morol.
Dywedodd Marie Parkin, Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Mae Sioe Sir Benfro’n gyfle gwych i bobl ddysgu mwy am y Parc Cenedlaethol, y gwaith sy’n mynd i mewn iddo a’r tirlun y mae’n ei ddiogelu. Boed hynny drwy adrodd straeon, crefftau ymarferol neu wrth sgwrsio â staff yn unig, rydym yn gobeithio y bydd pob ymwelydd yn gadael wedi darganfod rhywbeth newydd.”
Bydd y storïwr dwyieithog Michael Harvey yn cynnal sesiynau ar y ddau ddiwrnod yng nghornel adrodd straeon “Llinos o Lydstep”, lle gall plant eistedd ar fyrnau gwellt a chlustogau i wrando ar stori merch fach sy’n teithio drwy amser ac yn darganfod effeithiau cynnydd yn lefel y môr a newid hinsawdd.
Mewn mannau eraill yn y babell, gall ymwelwyr archwilio ardal grefftau ar thema gwyfynod sy’n cynnwys coeden helyg weuedig, gwyfynod ceramig a gêm baru, ynghyd â magl wyfynod go iawn. Bydd acwariwm Sea Trust / Ocean Lab o fywyd morol lleol hefyd i’w weld, gyda’r tîm ar gael i ateb cwestiynau.
Bydd y stondin hefyd yn hyrwyddo Tirlun, adnodd addysgol dwyieithog newydd sy’n cysylltu plant o bob rhan o Gymru ag wyth Tirwedd Ddynodedig y wlad.
Ar y feranda, bydd Parcmyn yn cynnal gweithgareddau crefft arfordirol, a gall ymwelwyr dynnu hunlun yn y gadair enfawr Tirlun, a oedd yn boblogaidd iawn yn Eisteddfod y Garreg Las ddiweddar. Cafodd y gadair ei chreu i hyrwyddo Tirlun ac i ddathlu cysylltiad balch yr Awdurdod â Chadair Eisteddfod y Garreg Las, a noddir gan yr Awdurdod.
I’r rhai sy’n bwriadu ymweliad â’r arfordir, bydd cyngor a gwybodaeth ar Lwybr yr Arfordir a llwybrau eraill ar gael, yn ogystal ag arddangosfa o gadeiriau olwyn y traeth i gefnogi gwaith codi arian barhaus yr Ymddiriedolaeth Elusennol ar gyfer y cyfarpar. Gall ymwelwyr hefyd blymio i mewn i hanes y Parc, gyda ffilmiau archif o’r 1950au a’r 60au i’w gweld ochr yn ochr ag arddangosiad byw o Bortal Lidar Arfordir Penfro.
Bydd yr Awdurdod yn cynnal derbyniad yn y babell ddydd Mercher 19 Awst i ddathlu prosiect #NNF4 Cysylltiadau Naturiol, sy’n dod â chymunedau a thirfeddianwyr ynghyd i greu tirwedd fwy gwydn ar gyfer natur.
Mae’r derbyniad yn un o sawl uchafbwynt yn ystod y Sioe ddeuddydd, a gynhelir ar Faes Sioe’r Sir yn Hwlffordd ddydd Mercher 19 a dydd Iau 20 Awst.
I gael rhagor o wybodaeth am Sioe Sir Benfro neu i brynu tocynnau, ewch i www.pembsshow.org. Mae manylion pellach am waith Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar gael yn www.arfordirpenfro.cymru.