Canllawiau Cynllunio Atodol Gymeriad y Dirwedd

Mae’r Canllawiau Cynllunio Atodol hyn yn darparu canllawiau mwy manwl ar y ffordd y mae polisïau’r Cynllun Datblygu Lleol (yn enwedig Polisi 8 ‘Nodweddion Arbennig’ a Pholisi 14 ‘Gwarchod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro’) yn cael eu cymhwyso.


 

Cynhyrchwyd Taflenni Data ar gyfer pob Ardal Nodwedd Tir. O fewn y taflenni hyn, ceir disgrifiadau manwl o’r prif briodoleddau, o dan benawdau Gweledol a Synhwyraidd, Tirwedd Ddaearegol, Cynefinoedd y Dirwedd a’r Dirwedd Hanesyddol a Diwylliannol.

 

Yn olaf, gosodwyd canllawiau rheoli ar gyfer pob Ardal Nodwedd Tir, yn nodi’r prif bwyntiau i’w hystyried yn y prosesau cynllunio defnydd tir a rheoli tir.