Canllawiau Cynllunio Atodol Cynllun Bro – Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol a Thai Fforddiadwy

Nod y polisi yw helpu i gynnal cymunedau gwledig a chadw pobl yn eu cymunedau lleol trwy ganiatáu datblygu cartrefi fforddiadwy ar raddfa fach i ddiwallu angen tai lleol a nodwyd. Mae hyrwyddwyr safleoedd o'r fath yn cynnwys Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, y Cyngor Sir ac Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol.


 

Pwrpas y Canllawiau hyn yw cynorthwyo i gyflwyno datblygiadau tai fforddiadwy gyda chymorth Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol. Dyma un o gyfres o Becynnau Cymorth Cynllun Bro y mae’r Awdurdod Parc Cenedlaethol yn bwriadu eu paratoi.

 

Sefydlir Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol gan y gymuned ar gyfer y gymuned. Mae’r Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol yn ymdrechu i gadw’r cartrefi neu’r asedau yn barhaol fforddiadwy. Mae hyn yn golygu nad yw’r cartref neu’r ased yn cael ei wneud yn fforddiadwy i’r prynwyr cyntaf yn unig ond bod yr Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol yn cynnal fforddiadwyedd y cartref neu’r ased am byth.

 

Bydd yr Awdurdod yn defnyddio’r un dull ag a ddefnyddiodd i asesu safleoedd ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol 2.

 

Pecyn Cymorth Cynllun Bro

 

 


 

 

 

Fishing village of Porthgain