Gwersylloedd Ardystiedig a Digwyddiadau Dros Dro: Datblygiad a Ganiateir ac effeithiau ar Ardaloedd Cadwraeth Arbennig

Gwersylloedd Ardystiedig a Digwyddiadau Dros Dro: Datblygiad a Ganiateir ac effeithiau ar Ardaloedd Cadwraeth Arbennig

 

Er bod gwersylloedd pebyll bellach yn wynebu rheolaeth gynllunio o ganlyniad i’r Cyfarwyddyd Erthygl 4(1) a gyflwynwyd ar 1 Ionawr 2026, nid yw’r Cyfarwyddyd Erthygl 4(1) yn effeithio ar wersylloedd sy’n gweithredu dan dystysgrifau eithrio na digwyddiadau dros dro megis priodasau, gwyliau, ffilmio neu sioeau amaethyddol sy’n gweithredu dan y rheol ’28 diwrnod’.

Mae’r hawliau datblygiad a ganiateir hyn yn caniatáu newidiadau penodol i adeiladau neu dir heb yr angen i wneud cais am ganiatâd cynllunio gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol a chael caniatâd o’r fath.  Fodd bynnag, efallai y bydd hawliau datblygiad a ganiateir mewn ardaloedd gwarchodedig penodol (er enghraifft, Parciau Cenedlaethol ac ardaloedd cadwraeth) ac ar gyfer adeiladau rhestredig yn gyfyngedig. Argymhellir gofyn am gyngor gan yr Awdurdod bob amser cyn gwneud unrhyw waith rydych chi’n ystyried y gallai fod yn ddatblygiad a ganiateir.

 

Datblygiad sy’n effeithio ar Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA)

Mae Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (fel y’i diwygiwyd) yn gosod gofynion ychwanegol ar ddatblygiad a gyflawnir dan hawliau datblygiad a ganiateir. Yn benodol, pan fo cynnig yn debygol o gael effaith sylweddol ar Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) neu Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA), ni ddylai’r datblygiad fynd rhagddo nes ei fod wedi’i gymeradwyo’n ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol.

Mae hyn yn arbennig o berthnasol i ddatblygiadau a ganiateir o fewn dalgylchoedd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig sy’n sensitif i faethynnau lle gall datblygiad achosi:

  • mewnbynnau maethynnau ychwanegol a/neu
  • llif draeniad budr newydd/ychwanegol.

O fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae hyn yn cynnwys dalgylch dŵr croyw Aberdaugleddau Fewnol (ACA Forol Sir Benfro) sydd mewn perygl ar hyn o bryd oherwydd methiant cemegol a biolegol.

Ceir rhagor o wybodaeth am leoliadau ACA a nodweddion dynodedig yn:

 

Beth sydd angen i chi ei wneud

 

Os ystyrir bod eich cynnig yn ddatblygiad a ganiateir:

  1. Gofynnwch am gyngor gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Cysylltwch â Cyfoeth Naturiol Cymru gyda disgrifiad clir o’ch cynnig a gofynnwch am eu barn ynghylch a yw’n debygol o gael effaith sylweddol ar ACA (yn unol â Rheoliadau 75-77).

Os yw Cyfoeth Naturiol Cymru’n dod i’r casgliad nad oes effaith sylweddol debygol, gellir ystyried eu barn yn un derfynol. Dylech ddarparu copi o’r ateb i’r Awdurdod Cynllunio Lleol.

  1. Darparu gwybodaeth ategol

Bydd angen ichi gynnwys y wybodaeth ganlynol i Cyfoeth Naturiol Cymru:

  • Rheoli dŵr budr a dŵr llwyd (e.e. o fasnau ymolchi, cawodydd a cheginau)
  • Lleoliad, amseru a chyfnod y cynnig (gan gynnwys amser gosod a thynnu i lawr)
  • A oes angen croesfannau cwrs dŵr dros dro
  • A gynigir unrhyw fynediad cyhoeddus i gyrsiau dŵr e.e. ar gyfer nofio, padlo, canŵio, rasys hwyliog ac ati

 

  1. Os na ellir diystyrru effeithiau

Os yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried na ellir diystyrru effaith sylweddol debygol, mae’n rhaid i chi gael cymeradwyaeth ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol cyn mynd ymlaen gyda’r datblygiad (gan gynnwys digwyddiadau).

Rhaid i gais am gymeradwyaeth ysgrifenedig gan yr Awdurdod gynnwys:

  • Ffurflen gais wedi’i llenwi
  • Tystiolaeth yn dangos pam eich bod chi’n ystyried nad oes unrhyw effeithiau niweidiol ar anllygredigaeth yr Ardaloedd Cadwraeth Arbennig a
  • Gwybodaeth ategol briodol a mesurau lliniaru perthnasol.
  • Codir tâl o £33

 

Proses asesu

Bydd eich cais i’r ACLl yn llywio Asesiad Priodol yr Awdurdod a fydd yn cael ei gynnal mewn ymgynghoriad â Cyfoeth Naturiol Cymru cyn gwneud penderfyniad.

Bydd y ffurflen a’r siart llif ategol a luniwyd ar gyfer digwyddiadau dros dro a safleoedd gwersylla ardystiedig yn eich tywys drwy’r broses hon.

 

Rhagor o arweiniad

Mae’r broses Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn un o ofynion Rheoliadau 75-77 Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (fel y’i diwygiwyd)

Mae rhagor o arweiniad ar dudalennau 69-73 o Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 5 Llywodraeth Cymru Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 5: cynllunio a chadwraeth natur | LLYW.CYMRU. Mae hwn yn cynnwys siart llif defnyddiol yn Ffigwr 2 Atodiad 5.

 

 

Gellir gweld y Cyfarwyddyd Erthygl 4 (1) â yma

 

 


 

 

Mill Bay, Dale Peninsula.