Nodyn cyngor – Gwybodaeth esboniadol am blannu ffiniau

Cyngor plannu cyffredinol

  • Bydd defnyddio amrywiaeth gynyddol o rywogaethau ar gyfer plannu gwrychoedd yn sicrhau llwyddiant hirdymor na fydd y gwrychoedd mor agored i blâu a chlefydau â rhai sy’n cynnwys un rhywogaeth.
  • Bydd gwrych brodorol yn cynhyrchu strwythur brodorol sydd o fudd i natur yn ogystal â chreu sgrin a ffin sylweddol.
  • Bydd plannu rhywogaethau brodorol collddail hefyd yn caniatáu i fwy o olau adlewyrchu drwy’r strwythur yn y gaeaf na strwythur bythwyrdd.
  • Dylai gwrych brodorol safonol gynnwys 6 planhigyn i bob metr mewn dwy res wasgarog tua 25cm ar wahân (neu 40-60cm ar wahân ym mhob rhes).
  • Peidiwch â defnyddio planhigion sy’n rhy fach oherwydd gallant gael eu mygu gan chwyn: mae 60-90cm o uchder fel arfer yn ddigonol
  • Gellir ystyried sbesimenau llai mewn gerddi lle mae gwaith cynnal a chadw’n cael ei wneud yn amlach i atal chwyn a glaswelltau rhag cystadlu â’r sbesimenau a blannwyd. Fodd bynnag, os nad yw’r ardal yn cael ei chynnal a’i chadw’n rheolaidd, cynghorir bod sbesimen talach yn cael ei blannu.
  • Mewn llefydd agored efallai y bydd angen gosod ffyn i gynnal y planhigion. Os oes perygl y bydd cwningod yn amharu ar y planhigion, defnyddiwch lewys coed rhag cwningod neu ddull tebyg i’w diogelu.
  • Yr amser gorau ar gyfer plannu yw:
  • Stoc wedi’i dyfu mewn celloedd – Medi i Fai
  • Stoc â gwraidd moel – Tachwedd i ddiwedd Mis Mawrth – Yn ystod y cyfnod hwn gallwch brynu planhigion â gwraidd moel sy’n rhatach na rhai wedi’u tyfu mewn pot / celloedd. Nodwch: Mae’n well plannu yn ystod tywydd llaith, cymylog; dylech osgoi plannu ar ddyddiau heulog, gwyntog, cyfnodau o farrug caled a/neu pan fydd eira ar y ddaear.

 

Dewis rhywogaethau

  • Un o brif rywogaethau brodorol gwrychoedd Sir Benfro fyddai’r Ddraenen Wen (50-60%) ynghyd â’r Ddraenen ddu a Choed cyll. Bydd hyn yn creu gwrych brodorol sy’n llai tebygol o ddioddef o blâu a chlefydau sy’n fwy o risg mewn gwrychoedd sy’n cynnwys un rhywogaeth.
  • Mae’r Ddraenen ddu yn rhywogaeth allweddol yng ngwrychoedd Sir Benfro ond yn gyffredinol fe’i ceir ar gloddiau Sir Benfro lle gall gwreiddiau ochrol y rhywogaethau a blannwyd gyfyngu ar y natur ymledol. Lle caiff y Ddraenen ddu ei phlannu fel gwrych ac nid ar glawdd gall ymledu i fannau agored fel caeau neu erddi wrth ymyl y gwrychoedd dan sylw. Os caiff y tir cyfagos a’r gwrych eu rheoli’n rheolaidd, efallai na fydd hyn yn broblem, ond dylid ei ystyried o hyd os mai dyma’r brif rywogaeth y bwriedir ei phlannu.
  • Gellir hefyd ystyried bod cynnwys rhywogaethau fel Piswydden, Cwyrosyn a Gwifwrnwydden y gors hefyd yn cynyddu amrywiaeth.
  • Os oes angen mathau bythwyrdd, gellir ystyried defnyddio rhywogaethau brodorol fel Celyn ac Yswydden.
  • Dyma restr o rywogaethau coed neu lwyni sy’n gynhenid i Sir Benfro sy’n addas ar gyfer gwrychoedd.
Eithin** Ulex europaeus/gallii Piswydden Euonymus europaeus
Draenen ddu Prunus spinosa Gwifwrnwydden * Viburnum lantana
Coeden afalau surion* Malus sylvestris Yswydden Ligustrum vulgare
Gwifwrnwydden y gors Viburnum opulus Ysgawen Sambucus nigra
Draenen wen* Crataegus monogyna Cwyrosyn Cornus sanguinea
Collen Corylus avellana Rhosyn Gwyllt (dringwr) Rosa canina
Celyn* Ilex aquifolium

* Gellir hefyd tyfu’r rhywogaethau hyn yn goed bach o fewn y gwrych.
** I’w cael mewn safleoedd agored iawn

 

  • Gellir plannu coed mwy, fel Derw, hefyd os oes angen. Mae Onnen yn rhywogaeth frodorol a geir ar wrychoedd; fodd bynnag, cynghorir nad yw Onnen yn cael ei defnyddio mewn cynlluniau plannu ar hyn o bryd. Cyfeiriwch at Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio)
  • Gall Ysgawen dyfu’n gyflymach na rhywogaethau gwrychoedd eraill ac felly argymhellir ei chynnwys unwaith y bydd y gwrych wedi dechrau sefydlu gan ei bod o fudd i fywyd gwyllt oherwydd ei bod yn cynhyrchu blodau ac aeron. Os mai nod y gwrych yw diogelu stoc yna efallai na fydd Ysgawen yn addas; oherwydd ei natur frau sy’n creu ‘dolen wan’.
  • Unwaith y mae wedi sefydlu, gellid ystyried cynnwys rhywogaethau ‘dringo’ fel Rhosyn Gwyllt, Gwyddfid a Rhosyn Dringo i gynyddu amrywiaeth yn ogystal ag ychwanegu cryfder ochrol ychwanegol a llawnder i’r gwrych. Cynghorir bod y gwrych yn cael amser i sefydlu yn gyntaf rhag i blanhigion dringo fynd yn drech na’r llwyni ifanc.

Gwybodaeth ar gyfer Cais Cynllunio

  • Ceisiadau cynllunio – Pan fo angen neu os cynigir cynllun tirlunio ôl-ddatblygu; dylid darparu manylion am y gwrychoedd a gaiff eu plannu, gan gynnwys:
  • Rhywogaethau y bwriedir eu plannu o fewn y gwrych
  • Maint – uchder sbesimenau pan gânt eu plannu
  • Ffurf – planhigion o had neu doriadau (feathers, whips), ac unrhyw goed hirgyrff i’w cynnwys
  • Nifer bob rhywogaeth sydd i’w plannu neu ganran
  • Lleoliadau penodol – pa ffin ac ati
  • Bylchau – dwy res wasgarog ayb
  • Tarddiad lleol – os yw’n hysbys
  • Amser plannu
  • Unrhyw wybodaeth berthnasol arall – gwraidd moel, wedi’i dyfu mewn celloedd, pot
  • Y ffordd symlaf i ddarparu’r wybodaeth angenrheidiol yw mewn tabl:
Enw Enw Lladin Nifer % Bylchau Maint
Draenen ddu Prunus spinosa 12 20% 6 planhigyn i bob metr – 2 rhes wasgarog 60-90cm
Yswydden ayb Ligustrum vulgare 3 5% 6 planhigyn i bob metr – 2 rhes wasgarog 60-90cm

 

Rhywogaethau anfrodorol / Ymledol

  • Dylid cymryd gofal i sicrhau, lle y bo’n bosibl, bod rhywogaethau brodorol (o darddiad lleol) yn cael eu defnyddio er mwyn atal rhywogaethau anfrodorol rhag sefydlu neu ymledu i’r ardal gyfagos.
  • Mae hefyd angen sicrhau nad yw unrhyw rywogaethau a ddewisir wedi’u rhestru yn Atodlen 9 o Ddeddf Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt 1981.

 

Cloddiau Sir Benfro

  • Os bwriedir cynnwys Cloddiau Sir Benfro ar y safle; dylid darparu manylion y dull adeiladu gan gynnwys dimensiynau hefyd mewn unrhyw gais cynllunio.
  • Mae nodweddion cloddiau Sir Benfro fel strwythurau o fewn datblygiad arfaethedig yn nodweddion sy’n cael eu ffafrio yn Sir Benfro gan fod:
    • Modd eu gweithredu i ddarparu strwythur ar unwaith sy’n gwneud yr ardal ddatblygu’n llai amlwg.
    • Gellir lleihau’r risg y bydd coed yn methu â thyfu mewn safleoedd datblygu yn sgil cywasgu’r tir / difrod ffisegol (effeithiau uniongyrchol cerbydau) / difrod cemegol (gollyngiadau tanwydd/halen ar y ffyrdd) / ymrwymiadau cynnal a chadw / niwsans yn y dyfodol gan goed sydd angen eu rheoli o ran uchder a maint.
    • Darparu sgrin o goed brodorol ar unwaith a fydd yn golygu llai o gyfrifoldebau rheoli gan y bydd rhywogaethau’r gwrych a’r coed yn tyfu’n uwch ac yn ymledu llai; sy’n golygu na fydd angen gwneud gwaith tocio mor aml.
    • Lleihau’r risg o niwed i’r wyneb wrth i wreiddiau dyfu’n raddol i’r ardal ddatblygu gan fod y broses o sefydlu’r system wreiddiau’n digwydd yn bennaf o fewn y gwrych.
    • Darparu lefel o gysylltedd a diddordeb cynefin; lle gwneir ymdrechion i sicrhau eu bod yn ffinio â’r dirwedd gyfagos.
    • Yn nodwedd draddodiadol o dirwedd Sir Benfro; yn darparu cyswllt tirwedd hanesyddol â’r safle.
    • Dull symlach o reoli’r gwrych drwy docio’r gwrych cyfan ar gyfnodau penodol er budd bywyd gwyllt a’r defnydd o’r safle a rheoli unrhyw goed penodol a blannwyd ar y cloddiau mewn modd dewisol.
    • Dangosir enghreifftiau o fathau nodweddiadol o adeiladu cloddiau Sir Benfro:

Diagram Cloddiau Sir Beffro