Pwyllgor Rheoli Datblygu 21/10/26

Dyddiad y Cyfarfod : 21/10/2026

10am, Ystafell Preseli, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, ac o Bell

1.    Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.    Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda.

3.    Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Medi 2026

4.     Ystyried cyfarwyddyd y Cyfreithiwr ar Ddyletswyddau’r Aelodau wrth Benderfynu ar Geisiadau Cynllunio.

5.    Ystyried adroddiadau’r Rheolwr Rheoli Datblygu ar y ceisiadau cynllunio canlynol: –

NP/26/0407/FUL – Creu un safle teithwyr i gynnwys un garafan sefydlog, un garafan deithiol, un ystafell ddydd/ ystafell aml-bwrpas (rhannol ôl-weithredol) – Tir ger Froghall Yard, Moreton Lane, Saundersfoot

Argymhelliad y Swyddog: Gwrthod

NP/26/0411/FUL – Gosod peiriant newydd gwerthu tocynnau talu ac arddangos ac adleoli’r arwyddion presennol – Maes Parcio PCNPA, Dŵr Croyw Ddwyrain, Penfro, Sir Benfro

Argymhelliad y Swyddog: Caniatâd

6.    Ystyried adroddiadau’r Pennaeth Rheoli Datblygu ar Gorfodi

EC26/0126 – Sefydlu carafan brewsyl heb awdurdod – Tir ger Froghall yard, Moreton Lane, Saundersfoot.

7.   Nodi bod y Gorchmynion Cadw Coed canlynol wedi’u cadarnhau heb eu haddasu a heb wrthwynebiad

Gorchymyn Cadw Coed 169 – Netties Lodge, Lydstep

Gwnaeth y Awdurdod hwn roi’r Gorchymyn Cadw Coed yn dros dro ar 2 Medi 2026.  Y terfyn amser i bartïon gyflwyno gwrthwynebiadau i’r gorchymyn oedd 30 Medi 2026, ac ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau.

8.    Ystyried adroddiadau’r Rheolwr Rheoli Datblygu ar Apeliadau.

NODIADAU:

A.   Yn unol â Ddeddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 bydd ymatebion i ymgynghoriaethau a wneir yng nghyd-destun y ceisiadau cynllunio sy’n gynwysedig yn yr adroddiad dilynol, na fyddant wedi dod i law erbyn y dyddiad ar gyfer paratoi’r adroddiad, yn cael eu cyflwyno ar lafar yn y cyfarfod.

B.   Mae’r Papurau Cefndir a ystyrir wrth dafoli’r ceisiadau cynllunio ar yr agenda hwn yn cynnwys pob un neu rai o’r eitemau canlynol.  (Cynhwysir eitemau 1 – 4 yn y ffeil ar gyfer pob cais unigol):

1.   Cais : yn cynnwys y ffurflen gais, tystysgrif o dan Adran 66 o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, cynlluniau a gwybodaeth gefnogol arall a gyflwynir gyda’r cais.

2.   Gohebiaeth bellach gyda’r ymgeisydd, yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau i’r cais: yn cynnwys unrhyw lythyron at yr ymgeisydd/asiant yn ymwneud â’r cais ac unrhyw ohebiaeth bellach a gyflwynir gan yr ymgeisydd/asiant ynghyd â manylion neu gynlluniau wedi’u diwygio.

3.   Llythyrau wrth Gyrff Statudol: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned, Adrannau’r Cyngor Sir, Cyfoeth Naturiol Cyru, Dŵr Cymru a chyrff cyhoeddus eraill a chymdeithasau.

4.   Llythyrau wrth Unigolion Preifat: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth y cyhoedd yn ymwneud â’r cais oni bai bod yna gais wedi’i wneud gan yr awduron i beidio ag adrodd eu safbwyntiau’n gyhoeddus.

5.   Cynlluniau Statudol a Dogfennau Polisi:

(a) Cymru’r Dyfodol – Cynllun Cenedlaethol 2040. Dyma Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru ac fe’i mabwysiadwyd ar 24 Chwefror 2021.

(b) Cynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2 a fabwysiadwyd ar 30 Medi, 2020 a’r canllawiau cynllunio atodol cysylltiedig

(c)  Cynllun Partneriaeth ar gyfer y Parc Cenedlaethol 2025-2029 a fabwysiadwyd ar 26 Mawrth 2025.

(d) Canllawiau Polisi Cynllunio Cymru a Nodiadau Cyngor Technegol sydd gyda’i gilydd yn ffurfio Canllawiau Polisi Cynllunio Llywodraeth Cymru.

6.    Unrhyw Ddogfennau Eraill: yn cynnwys unrhyw ddogfennau perthnasol eraill megis rhybuddion penderfyniadau yn y gorffennol a rhybuddion safle.

Dylai unrhyw berson sydd am weld y Papurau Cefndir hyn gysylltu â Sue Davies, yr Awdurdod Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro (Ffôn:  01646 624800 Est.4840) e-bost: dc@arfordirpenfro.org.uk