Pwyllgor Rheoli Datblygu 09/12/20

Dyddiad y Cyfarfod : 09/12/2020

10am Rhith-Gyfarfod

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda.

3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2020.

4. Ystyried cyfarwyddyd y Cyfreithiwr ar Ddyletswyddau’r Aelodau wrth Benderfynu ar Geisiadau Cynllunio.

5. Ystyried adroddiadau’r Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar y ceisiadau cynllunio canlynol:

a) NP/19/0522/FUL – Caniatad cynllunio amlinellol ar gyfer 14 o unedau tai fforddiadwy. Caniatad cynllunio llawn ar gyfer newid defnydd tir o 85 o bebyll a charafanau teithiol i 85 o garafanau sefydlog a gwaith tirweddu cysylltiedig, ffyrdd dosbarthu a gorsaf newydd i bwmpio – Buttyland Caravan & Camping Park, Maenorbyr, Dinbych y Pysgod, Sir Benfro, SA70 7SX

Argymhelliad y Swyddog: DIRPRWYO CANIATAD

b) NP/20/0371/FUL – Newid defnydd o lety gwag Rheolwr i uned wyliau hunangynhwysol – Newport Links Golf Club, Golf Course Road, Trefdraeth, Sir Benfro, SA42 0NR

Argymhelliad y Swyddog: CANIATAD

c) NP/20/0381/FUL – Codi mast meteorolegol i fesur y gwynt a data tywydd, uchafswm uchder o 120m o lefel y llawr, am gyfnod dros-dro o 3 blynedd – Land at South Studdock Farm, Angle, Penfro, Sir Benfro, SA71 5BG

Argymhelliad y Swyddog: CANIATAD

d) NP/20/0437/FUL – Cais cynllunio ol-weithredol ar gyfer drws yn y wal orllewinol a ffenestri yn y to – Apple Tree Gallery, The Ridgeway, Saundersfoot, Sir Benfro, SA69 9JE

Argymhelliad y Swyddog: CANIATAD

6. Ystyried adroddiadau’r Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar Apeliadau

NODIADAU:

A.   Yn unol â Ddeddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 bydd ymatebion i ymgynghoriaethau a wneir yng nghyd-destun y ceisiadau cynllunio sy’n gynwysedig yn yr adroddiad dilynol, na fyddant wedi dod i law erbyn y dyddiad ar gyfer paratoi’r adroddiad, yn cael eu cyflwyno ar lafar yn y cyfarfod.

B.   Mae’r Papurau Cefndir a ystyrir wrth dafoli’r ceisiadau cynllunio ar yr agenda hwn yn cynnwys pob un neu rai o’r eitemau canlynol.  (Cynhwysir eitemau 1 – 4 yn y ffeil ar gyfer pob cais unigol):

1.   Cais : yn cynnwys y ffurflen gais, tystysgrif o dan Adran 66 o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, cynlluniau a gwybodaeth gefnogol arall a gyflwynir gyda’r cais.

2.   Gohebiaeth bellach gyda’r ymgeisydd, yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau i’r cais : yn cynnwys unrhyw lythyron at yr ymgeisydd/asiant yn ymwneud â’r cais ac unrhyw ohebiaeth bellach a gyflwynir gan yr ymgeisydd/asiant ynghyd â manylion neu gynlluniau wedi’u diwygio.

3.   Llythyrau wrth Gyrff Statudol: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned, Adrannau’r Cyngor Sir, Cyfoeth Naturiol Cyru, Dŵr Cymru a chyrff cyhoeddus eraill a chymdeithasau.

4.   Llythyrau wrth Unigolion Preifat: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth y cyhoedd yn ymwneud â’r cais oni bai bod yna gais wedi’i wneud gan yr awduron i beidio ag adrodd eu safbwyntiau’n gyhoeddus.

5.   Cynlluniau Statudol a Dogfennau Polisi Anffurfiol :

a    Cynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2 a fabwysiadwyd ar 30 Medi, 2020 a’r canllawiau cynllunio atodol cysylltiedig.

b.   Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2020 – 2024 a fabwysiadwyd ar 11 Rhagfyr 2019.

6.    Unrhyw Ddogfennau Eraill: yn cynnwys unrhyw ddogfennau perthnasol eraill megis rhybuddion penderfyniadau yn y gorffennol a rhybuddion safle.

Dylai unrhyw berson sydd am weld y Papurau Cefndir hyn gysylltu â Sue Davies, yr Awdurdod Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro (Ffôn:  01646 624800 Est.4840) e-bost: dc@pembrokeshirecoast.org.uk

Lawrlwythwch y cofnodion