Pwyllgor Grantiau 14/10/2026
10am, Rhith-gyfarfod
1. Ethol Cadeirydd am y flwyddyn sy’n dod
Enwebiad derbyniedig: Cynghorydd M James
2. Ethol Dirprwy Gadeirydd am y flwyddyn sy’n dod
Enwebiad derbyniedig: Cynghorydd S Skyrme-Blackhall
3. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
4. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes
5. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Ionawr 2026
6. Nodi’r Log Gweithredu o’r cyfarfod blaenorol
7. Ystyried adroddiad y Pennaeth Datgarboneiddio ynglŷn â’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy (Adroddiad 03/26)
8. Penderfynu eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinir ym Mharagraffau 12 a 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
9. Derbyn diweddariad llafar gan y Pennaeth Datgarboneiddio ynglŷn â phrosiect anghyflawn.
NODER: Rhaid i unrhyw Aelod sydd wedi derbyn rhodd neu letygarwch roi gwybod am hynny i’r tîm Gwasanaethau Democrataidd gynted ag y bo modd ar ôl y digwyddiad er mwyn gallu ei gofrestru yn y Gofrestr Rhoddion a Lletygarwch.