Pwyllgor Adolygu Gweithredol 09/09/2026

Dyddiad y Cyfarfod : 09/09/2026

10yb, Rhith-gyfarfod

1.Penodi Cadeirydd am y flwyddyn sy’n dod

Enwebiad derbyniedig: Cynghorydd C Williams BEM

2. Penodi Dirprwy Gadeirydd am y flwyddyn sy’n dod

Enwebiadau derbyniedig: Miss F Day   

3. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

4. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda

5. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Mehefin 2026

6. Nodi’r Log Gweithredu o’r cyfarfod blaenorol

7. Ystyried yr adroddiad canlynol:

20/26    Archwiliad Dwfn/ Hunanasesiad o’r Amcan Llesiant: Hinsawdd

Cyflwyno asesiad archwiliad dwfn o un o amcanion llesiant, sef Hinsawdd.

Astudiaeth Achos: Gwydnwch hinsawdd ac ymgysylltu ar faterion cynllunio gyda phlant ysgol

Cyflwyno astudiaeth achos i’r Aelodau ar ymgysylltu sy’n canolbwyntio ar addasu i’r Newid Hinsawdd yn Niwgwl gyda disgyblion ac athrawon ysgol uwchradd. Mae’r cyflwyniad yn amlinellu’r manteision a’r heriau o weithio ar y cyd i ddiwallu anghenion amrywiaeth o wahanol bartneriaid mewn Addysg, Cynllunio a’r timau lliniaru Risg Llifogydd.

21/26    Adroddiad ar Berfformiad Amcanion Llesiant

Cyflwyno adroddiad ar y camau ymlaen yn erbyn y dangosyddion / prosiectau / rhaglenni gwaith blaenoriaeth am y cyfnod yn diweddu 30 Mehefin 2026.

 

NODIR:               Rhaid i unrhyw Aelod sydd wedi derbyn rhodd neu letygarwch roi gwybod am hynny i’r tîm Gwasanaethau Democrataidd gynted ag y bo modd ar ôl y digwyddiad er mwyn gallu ei gofrestru yn y Gofrestr Rhoddion a Lletygarwch.