Pwyllgor Rheoli Datblygu 31/01/24

Dyddiad y Cyfarfod : 31/01/2024

10am, Ystafell Werdd, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, ac o Bell

1.   Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda.

3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar:

a)  13 Rhagfyr 2023

b)  8 Ionawr 2024

4. Ystyried cyfarwyddyd y Cyfreithiwr ar Ddyletswyddau’r Aelodau wrth Benderfynu ar Geisiadau Cynllunio.

5. Ystyried adroddiadau’r Rheolwr Rheoli Datblygu ar y ceisiadau cynllunio canlynol:

a) NP/23/0246/FUL  – Newid defnydd yr ardal golff byr ac estyniad i gynnwys 10 o fythynnod/ carafanau symudol hunangynhwysol a’r lle parcio ynghyd a gwelliannau ecolegol – Tretio Caravan & Camping Park, Tyddewi, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 6DE

Argymhelliad y Swyddog: GWRTHOD

b) NP/21/0752/FUL – Adeiladu 2 dy sengl 4 ystafell wely – Mountain Ash Cottage, Sandy Hill Road, Saundersfoot, Sir Benfro, SA69 9PL

Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD

c) NP/23/0594/FUL – Caniatad cynllunio llawn ar gyfer 3 twnnel polythen at ddefnydd amaethyddol – Land to North East of Penrallt, Felindre Farchog, Crymych, Sir Benfro, SA41 3XW

Argymhelliad y Swyddog: GWRTHOD

d) NP/23/0451/FUL – Cais ol-weithredol am weithdy amaethyddol a storfa offer – Trewern Farm, Felindre Farchog, Crymych, Sir Benfro, SA41 3XE

Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD

6. Ystyried adroddiadau’r Rheolwr Rheoli Datblygu ar Apeliadau.

NODIADAU:

A.   Yn unol â Ddeddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 bydd ymatebion i ymgynghoriaethau a wneir yng nghyd-destun y ceisiadau cynllunio sy’n gynwysedig yn yr adroddiad dilynol, na fyddant wedi dod i law erbyn y dyddiad ar gyfer paratoi’r adroddiad, yn cael eu cyflwyno ar lafar yn y cyfarfod.

B.   Mae’r Papurau Cefndir a ystyrir wrth dafoli’r ceisiadau cynllunio ar yr agenda hwn yn cynnwys pob un neu rai o’r eitemau canlynol.  (Cynhwysir eitemau 1 – 4 yn y ffeil ar gyfer pob cais unigol):

1.   Cais : yn cynnwys y ffurflen gais, tystysgrif o dan Adran 66 o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, cynlluniau a gwybodaeth gefnogol arall a gyflwynir gyda’r cais.

2.   Gohebiaeth bellach gyda’r ymgeisydd, yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau i’r cais: yn cynnwys unrhyw lythyron at yr ymgeisydd/asiant yn ymwneud â’r cais ac unrhyw ohebiaeth bellach a gyflwynir gan yr ymgeisydd/asiant ynghyd â manylion neu gynlluniau wedi’u diwygio.

3.   Llythyrau wrth Gyrff Statudol: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned, Adrannau’r Cyngor Sir, Cyfoeth Naturiol Cyru, Dŵr Cymru a chyrff cyhoeddus eraill a chymdeithasau.

4.   Llythyrau wrth Unigolion Preifat: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth y cyhoedd yn ymwneud â’r cais oni bai bod yna gais wedi’i wneud gan yr awduron i beidio ag adrodd eu safbwyntiau’n gyhoeddus.

5.   Cynlluniau Statudol a Dogfennau Polisi:

(a) Cymru’r Dyfodol – Cynllun Cenedlaethol 2040. Dyma Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru ac fe’i mabwysiadwyd ar 24 Chwefror 2021.

(b)  Cynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2 a fabwysiadwyd ar 30 Medi, 2020 a’r canllawiau cynllunio atodol cysylltiedig.

(c)  Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2020 – 2024 a fabwysiadwyd ar 11 Rhagfyr 2019.

(d) Canllawiau Polisi Cynllunio Cymru a Nodiadau Cyngor Technegol sydd gyda’i gilydd yn ffurfio Canllawiau Polisi Cynllunio Llywodraeth Cymru.

6.    Unrhyw Ddogfennau Eraill: yn cynnwys unrhyw ddogfennau perthnasol eraill megis rhybuddion penderfyniadau yn y gorffennol a rhybuddion safle.

Dylai unrhyw berson sydd am weld y Papurau Cefndir hyn gysylltu â Sue Davies, yr Awdurdod Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro (Ffôn:  01646 624800 Est.4840) e-bost: dc@pembrokeshirecoast.org.uk