Pwyllgor Rheoli Datblygu 15/07/26

Dyddiad y Cyfarfod : 15/07/2026

10am, Ystafell Preseli, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, ac o Bell

1.    Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.  Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda.

3.   Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar:

a)    3 Mehefin 2026

b)    24 Mehefin 2026

4.     Ystyried cyfarwyddyd y Cyfreithiwr ar Ddyletswyddau’r Aelodau wrth Benderfynu ar Geisiadau Cynllunio.

5.    Ystyried adroddiadau’r Rheolwr Rheoli Datblygu ar y ceisiadau cynllunio canlynol: –

a) NP/23/0435/FUL – Newid defnydd tir i ffurfio 11 o leiniau carafanau teithiol a lleoli 3 bugeildy. (Yn rhannol ôl-weithredol i gynnwys cadw’r sied storio bresennol a’r adeilad cyfleustodau) – Tir i’r Dwyrain o Fferm Neuadd Talbenny, Talbenny, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 3XB

Argymhelliad y Swyddog: Caniatâd

b) NP/26/0145/FUL – 1 sauna bach pren gwresogi â choed, a chaban llogi cysylltiedig – Saundersfoot Harbour, Saundersfoot, Sir Benfro, SA69 9HE

Argymhelliad y Swyddog: Gwrthod

c) NP/26/0177/FUL – Creu llawr caled ar y fynedfa i Penlan – Forestry entrance to Penlan, Cwm Gwaun, Sir Benfro

Argymhelliad y Swyddog: Caniatâd

d) NP/26/0242/FUL – Gosod paneli ffotofoltäidd ar y to dros yr ardal seddi allanol – The Shed Tea Room, Porthgain, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 5BN

Argymhelliad y Swyddog: Caniatâd

e) NP/26/0243/LBA – Gosod paneli ffotofoltäidd ar y to dros yr ardal seddi allanol – The Shed Tea Room, Porthgain, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 5BN

Argymhelliad y Swyddog: Caniatâd

6.    Ystyried adroddiadau’r Rheolwr Rheoli Datblygu ar Apeliadau.

NODIADAU:

A.   Yn unol â Ddeddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 bydd ymatebion i ymgynghoriaethau a wneir yng nghyd-destun y ceisiadau cynllunio sy’n gynwysedig yn yr adroddiad dilynol, na fyddant wedi dod i law erbyn y dyddiad ar gyfer paratoi’r adroddiad, yn cael eu cyflwyno ar lafar yn y cyfarfod.

B.   Mae’r Papurau Cefndir a ystyrir wrth dafoli’r ceisiadau cynllunio ar yr agenda hwn yn cynnwys pob un neu rai o’r eitemau canlynol.  (Cynhwysir eitemau 1 – 4 yn y ffeil ar gyfer pob cais unigol):

1.   Cais : yn cynnwys y ffurflen gais, tystysgrif o dan Adran 66 o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, cynlluniau a gwybodaeth gefnogol arall a gyflwynir gyda’r cais.

2.   Gohebiaeth bellach gyda’r ymgeisydd, yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau i’r cais: yn cynnwys unrhyw lythyron at yr ymgeisydd/asiant yn ymwneud â’r cais ac unrhyw ohebiaeth bellach a gyflwynir gan yr ymgeisydd/asiant ynghyd â manylion neu gynlluniau wedi’u diwygio.

3.   Llythyrau wrth Gyrff Statudol: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned, Adrannau’r Cyngor Sir, Cyfoeth Naturiol Cyru, Dŵr Cymru a chyrff cyhoeddus eraill a chymdeithasau.

4.   Llythyrau wrth Unigolion Preifat: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth y cyhoedd yn ymwneud â’r cais oni bai bod yna gais wedi’i wneud gan yr awduron i beidio ag adrodd eu safbwyntiau’n gyhoeddus.

5.   Cynlluniau Statudol a Dogfennau Polisi:

(a) Cymru’r Dyfodol – Cynllun Cenedlaethol 2040. Dyma Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru ac fe’i mabwysiadwyd ar 24 Chwefror 2021.

(b)  Cynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2 a fabwysiadwyd ar 30 Medi, 2020 a’r canllawiau cynllunio atodol cysylltiedig.

(c)  Cynllun Partneriaeth ar gyfer y Parc Cenedlaethol 2025-2029 a fabwysiadwyd ar 26 Mawrth 2025.

(d) Canllawiau Polisi Cynllunio Cymru a Nodiadau Cyngor Technegol sydd gyda’i gilydd yn ffurfio Canllawiau Polisi Cynllunio Llywodraeth Cymru.

6.    Unrhyw Ddogfennau Eraill: yn cynnwys unrhyw ddogfennau perthnasol eraill megis rhybuddion penderfyniadau yn y gorffennol a rhybuddion safle.

Dylai unrhyw berson sydd am weld y Papurau Cefndir hyn gysylltu â Sue Davies, yr Awdurdod Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro (Ffôn:  01646 624800 Est.4840) e-bost: dc@arfordirpenfro.org.uk