Pwyllgor Rheoli Datblygu 03/06/26

Dyddiad y cyfarfod : 03/06/2026

10am, Ystafell Preseli, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, ac o Bell

1.    Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2.    Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda.

3.    Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Ebrill 2026

4.     Ystyried cyfarwyddyd y Cyfreithiwr ar Ddyletswyddau’r Aelodau wrth Benderfynu ar Geisiadau Cynllunio.

5.    Ystyried adroddiadau’r Rheolwr Rheoli Datblygu ar y ceisiadau cynllunio canlyno: –

NP/25/0574/S73 – Amrywio amodau rhif 1 a rhif 3 o NP/21/0773/OUT i ymestyn y caniatâd am 3 blynedd arall – Former Turkey Farm, tir ger Blockett Lane, Aber Bach, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 3UH
Argymhelliad y Swyddog: Dirprwyo Caniatâd

NP/25/0515/FUL – Ailadeiladu’r estyniad llawr gwaelod yng nghefn y ty, adeiladu pergola, newidiadau i’r to, ychwanegu grisiau dihangfa dân. Gosod ffenestri codi gwydr dwbl yn lle’r ffenestri gwydr sengl. Ychwanegu rheiliau i’r iard yn y tu blaen – Manorbier House, Maenorbŷr, Dinbych y Pysgod, Sir Benfro, SA70 7TD
Argymhelliad y Swyddog: Caniatâd

NP/26/0154/FUL – Newid defnydd tir ar gyfer gwersylla, lleoli 5 pod tir ac uchafswm o 20 fan gwersylla yn dymhorol, a gosod 2 bwynt cysylltiad trydan – Gupton Farm, Castellmartin, Penfro, Sir Benfro, SA71 5HW
Argymhelliad y Swyddog: Dirprwyo Caniatâd

NP/26/0146/FUL – Codi adeilad amaethyddol ar gyfer ystablau bridio ceffylau – Iet Wen, Felindre Farchog, Crymych, Sir Benfro, SA41 3XF
Argymhelliad y Swyddog: Caniatâd

NP/26/0044/FUL – Estyniad i’r wal ddeheuol ynghyd â decin a chanllawiau cysylltiedig, ehangu’r portsh ffrynt, ychwanegu pibellau haul ar y to presennol, creu llefydd parcio athraidd, a sied newydd yn yr ardd, codi ffens 1.8m o uchder ar y ffin ddwyreiniol, a phwmp gwres o’r aer yn yr ardd gefn – Fox Lee, 11, Incline Way, Saundersfoot, Sir Benfro, SA69 9LX
Argymhelliad y Swyddog: Caniatâd

6.    Ystyried adroddiadau’r Pennaeth Rheoli Datblygu ar faterion cynllunio eraill – TPO168 – 11 incline Way, Saundersfoot

7.    Ystyried adroddiadau’r Rheolwr Rheoli Datblygu ar apeliadau.

 

NODIADAU:

A.   Yn unol â Ddeddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 bydd ymatebion i ymgynghoriaethau a wneir yng nghyd-destun y ceisiadau cynllunio sy’n gynwysedig yn yr adroddiad dilynol, na fyddant wedi dod i law erbyn y dyddiad ar gyfer paratoi’r adroddiad, yn cael eu cyflwyno ar lafar yn y cyfarfod.

B.   Mae’r Papurau Cefndir a ystyrir wrth dafoli’r ceisiadau cynllunio ar yr agenda hwn yn cynnwys pob un neu rai o’r eitemau canlynol.  (Cynhwysir eitemau 1 – 4 yn y ffeil ar gyfer pob cais unigol):

1.   Cais : yn cynnwys y ffurflen gais, tystysgrif o dan Adran 66 o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, cynlluniau a gwybodaeth gefnogol arall a gyflwynir gyda’r cais.

2.   Gohebiaeth bellach gyda’r ymgeisydd, yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau i’r cais: yn cynnwys unrhyw lythyron at yr ymgeisydd/asiant yn ymwneud â’r cais ac unrhyw ohebiaeth bellach a gyflwynir gan yr ymgeisydd/asiant ynghyd â manylion neu gynlluniau wedi’u diwygio.

3.   Llythyrau wrth Gyrff Statudol: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned, Adrannau’r Cyngor Sir, Cyfoeth Naturiol Cyru, Dŵr Cymru a chyrff cyhoeddus eraill a chymdeithasau.

4.   Llythyrau wrth Unigolion Preifat: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth y cyhoedd yn ymwneud â’r cais oni bai bod yna gais wedi’i wneud gan yr awduron i beidio ag adrodd eu safbwyntiau’n gyhoeddus.

5.   Cynlluniau Statudol a Dogfennau Polisi:

(a) Cymru’r Dyfodol – Cynllun Cenedlaethol 2040. Dyma Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru ac fe’i mabwysiadwyd ar 24 Chwefror 2021.

(b)  Cynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2 a fabwysiadwyd ar 30 Medi, 2020 a’r canllawiau cynllunio atodol cysylltiedig.

(c) Cynllun Partneriaeth ar gyfer y Parc Cenedlaethol 2025-2029 a fabwysiadwyd ar 26 Mawrth 2025.

(d) Canllawiau Polisi Cynllunio Cymru a Nodiadau Cyngor Technegol sydd gyda’i gilydd yn ffurfio Canllawiau Polisi Cynllunio Llywodraeth Cymru.

6.    Unrhyw Ddogfennau Eraill: yn cynnwys unrhyw ddogfennau perthnasol eraill megis rhybuddion penderfyniadau yn y gorffennol a rhybuddion safle.

Dylai unrhyw berson sydd am weld y Papurau Cefndir hyn gysylltu â Sue Davies, yr Awdurdod Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro (Ffôn:  01646 624800 Est.4840) e-bost: dc@arfordirpenfro.org.uk