Awdurdod y Parc Cenedlaethol 24/06/2026

Dyddiad y Cyfarfod : 24/06/2026

10:15yb neu yn union ar ol y cyfarfod cyffredinol blynyddol, Ystafell Preseli, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, ac o Bell

1.Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Mai 2026

4. Nodi’r Log Gweithredu o’r cyfarfod blaenorol

5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

6. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 22 Ebrill 2026

7. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

18/26    Adroddiad Ymgynghori ar Ddogfennau’r Cynllun Datblygu Lleol 3

Gofynnir i’r Aelodau nodi’r Adroddiad Ymgynghori, y diwygiadau i’r Adroddiad Cwmpasu’r Arfarniad o Gynaliadwyedd/ yr Asesiad Amgylcheddol Strategol, a’r Papur Materion, Gweledigaeth ac Amcanion.

19/26    Datganiad Llywodraethu Blynyddol

Gofynnir i’r Aelodau wneud sylwadau a chytuno ar y Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2025/26.

20/26    Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg

Argymhellir bod yr Awdurdod yn cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol fel cyflwyniad yr Awdurdod i’r Comisiynydd Iaith.

21/26    Adroddiad Blynyddol y Gweithgor Amrywio Incwm

Nodi Adroddiad Blynyddol y Gweithgor Amrywio Incwm a chytuno ar y camau nesaf ar gyfer y grŵp.

8. Penderfynu eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol oherwydd ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i ddiffinir ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

9. Ystyried yr adroddiad canlynol:

22/26    Adolygiad Blynyddol o’r Gofrestr Risg (Preifat)

Gofynnir i’r Aelodau nodi’r adroddiad blynyddol ar y Gofrestr Risg.