Awdurdod y Parc Cenedlaethol 23/09/2026
10yb, Ystafell Preseli, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, ac o bell
1.Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes
3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf 2026
4. Nodi’r Log Gweithredu o’r cyfarfod blaenorol
5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd
6. Derbyn crynodeb o Reoli Risg fel yr adroddwyd i’r Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol ym mis Gorffennaf.
7. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf 2026
8. Ystyried adroddiad y cyfarfod Pwyllgor Adolygu Gweithredol a gynhaliwyd ar 10 Mehefin 2026
9. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
26/26 Cysylltiadau Tirwedd Sir Benfro
Cytuno ar £135k o gyllid cyfatebol, ynghyd ag amser staff cysylltiedig i gefnogi cam datblygu’r cais Cysylltiadau Tirwedd Sir Benfro.
27/26 Gwerthuso Perfformiad Aelodau
Cytuno ar y Fframwaith Disgwyliadau, y Fframwaith Gwerthuso Perfformiad a chyflwyno Hunanasesiadau Llywodraethu Blynyddol ar gyfer yr Awdurdod.
28/26 Tocynnau Tymor Meysydd Parcio
Mae’r adroddiad hwn yn dilyn cyflwyniad a wnaed gerbron Gweithgor Amrywio Incwm yr APC fis Medi eleni ar faterion refeniw codi tâl mewn meysydd parcio, ac mae’n nodi argymhellion ar y tâl i’w godi ym meysydd parcio APCAP i ddod i rym ar y 1af o Fawrth 2026.
29/26 Adroddiad Monitro Blynyddol ar Gynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2
Mae’r adroddiad hwn yn ceisio cytundeb yr Aelodau i gyflwyno’r Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer 2025/26 (adroddiad rhif 5) i Lywodraeth Cymru.
30/26 Adroddiad Blynyddol ar Gyflawni’r Amcanion Llesiant
Mae’r adroddiad yn amlygu perfformiad yr Awdurdod am y flwyddyn 2025/26 yn erbyn y gweithgareddau a nodwyd yn ei Gynllun Corfforaethol ac Adnoddau 2023/24 – 2026/27, y Cynlluniau Cyflawni cysylltiedig, a’r datblygiadau ychwanegol yn ystod y flwyddyn.
31/26 Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb
Mae’r adroddiad yn amlinellu perfformiad yr Awdurdod yn erbyn y meysydd cydraddoldeb y mae’n ofynnol adrodd arnynt ar gyfer 2025/26. Mae’n ofynnol i’r Awdurdod gynhyrchu’r adroddiad hwn o dan Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011.
32/26 Adroddiad Blynyddol ar faterion Diogelu
Diben yr adroddiad hwn yw rhoi sicrwydd parhaus i Aelodau a’r rhanddeiliaid eraill bod y prosesau a’r systemau sydd yn eu lle i reoli materion Diogelu o fewn Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel yr Awdurdod) yn parhau i fod yn effeithiol.
33/26 Aelodaeth o’r Pwyllgorau
Mae’r adroddiad yn ceisio cadarnhad o aelodaeth y Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu, y Pwyllgor Cwynion a Phwyllgor Apêl yr Awdurdod.
34/26 Cronfa Ddata Cynllunio – i ddilyn
Mae’r adroddiad yn amlinelli caffael cronfa ddata gynllunio newydd.