Awdurdod y Parc Cenedlaethol 20/05/2026
10am, Ystafell Preseli, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, ac o Bell
1.Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes
3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mawrth 2026
4. Nodi’r Log Gweithredu o’r cyfarfod blaenorol
5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd
6. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 11 Mawrth 2026
7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Grantiau a gynhaliwyd ar 21 Ionawr 2026
8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar 25 Chwefror 2026
9. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Gweithredol a gynhaliwyd ar 04 Mawrth 2026
10. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 15 Ebrill 2026
11. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
14/26 Y Safonau Ariannol wedi’u Diweddaru
Diben yr adroddiad hwn yw ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau i fabwysiadu cyfres o Safonau Ariannol sy’n nodi’r dulliau sy’n ofynnol gan yr Awdurdod o ymdrin â meysydd allweddol o reolaeth ariannol.
15/26 Y Polisi Iechyd a Diogelwch
Cymeradwyo’r Polisi Iechyd a Diogelwch diwygiedig.
16/26 Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau
Yn unol â’n dyletswydd statudol, mae’r adroddiad blynyddol hwn yn amlinellu’r modd y mae swyddogaethau’r Pwyllgor Safonau wedi’u cyflawni, ac yn rhoi trosolwg o’r materion ymddygiad yn gyffredinol o fewn yr Awdurdod.
17/26 Yr Adolygiad Cyflogau a Graddfeydd
Ystyried adroddiad ar Adolygiad Cyflogau a Graddfeydd yr Awdurdod.
NODIR: Rhaid i unrhyw Aelod sydd wedi derbyn rhodd neu letygarwch roi gwybod am hynny i’r tîm Gwasanaethau Democrataidd gynted ag y bo modd ar ôl y digwyddiad er mwyn gallu ei gofrestru yn y Gofrestr Rhoddion a Lletygarwch.