Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol 22/07/26
10am, Rhith-gyfarfod
1. Ethol Cadeirydd am y flwyddyn sy’n dod
Enwebiad derbyniedig: Cyng C George
Cynigwyr: Dr M Havard
2. Ethol Dirprwy Gadeirydd am y flwyddyn sy’n dod
Enwebiad derbyniedig: Mr J Hogg
Cynigwyr: Cyng C George
3. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
4. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda
5. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Mai 2026 – i ddilyn
6. Nodi’r Log Gweithredu o’r cyfarfod blaenorol
7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Fforwm Gweithwyr a gynhaliwyd ar 15 Ebrill 2026
8. Derbyn adroddiad y cyfarfodydd o’r Grŵp Iechyd a Diogelwch a gynhaliwyd ar 14 Ebrill 2026.
9. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
18/26 Adroddiad Archwiliad Mewnol 2025/26
Mae’r Adroddiad Blynyddol yn cyflwyno canlyniadau’r gwaith archwilio mewnol ar system Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro o lywodraethu, rheoli risg a rheoli. Mae’r adroddiad hwn yn rhan o’r fframwaith i lywio’r Datganiad ar Reolaeth Fewnol, ac felly mae’n rhan allweddol o gylch Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro o sicrhau ansawdd.
Er Gwybodaeth
19/26 Log Gweithredu ar Archwilio Perfformiad Allanol ac Archwilio Mewnol (hyd at 30 Mai 2026)
Mae’r adroddiad yn gymorth i fonitro’r camau gweithredu y cytunwyd arnynt o’r adolygiadau Archwilio.
I’w Benderfynu
20/26 Adroddiad Perfformiad ar flaenoriaethau Llythyr Grant Strategol Llywodraeth Cymru 2025-26
Mae’r adroddiad yn cyflwyno gwybodaeth am berfformiad yn erbyn Blaenoriaethau Strategol Llywodraeth Cymru a nodir yn Llythyr Grant Strategol blynyddol yr Awdurdod.
Er Gwybodaeth
21/26 Adroddiad Gwasanaethau Pobl
Mae’r adroddiad yn rhoi diweddariad byr ar y digwyddiadau Iechyd a Diogelwch ers y cyfarfod diwethaf, a materion eraill Gwasanaethau Pobl all fod o ddiddordeb i’r Pwyllgor.
Er Gwybodaeth
22/26 Datganiad Drafft o Gyfrifon – i ddilyn
Gofynnir i’r Aelodau dderbyn y Datganiad Drafft o Gyfrifon 2024/25
Er Gwybodaeth
10. Derbyn diweddariad llafar gan y Pennaeth Ariannol a Chodi Arian ar berfformiad y gyllideb yn y chwarter cyntaf.
11. Penderfynu eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol oherwydd ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i ddiffinir ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972
12. Ystyried yr adroddiad canlynol:
23/26 Y Polisi Rheoli Risg – Y Gofrestr Risg a’r Datganiad Rheoli Risg
Mae’r adroddiad yn rhoi cyfle i’r Aelodau wneud sylwadau a thrafod fersiwn wedi’i diweddaru o’r Gofrestr Risg, yr Adroddiad ar Sicrwydd Ail Linell, a’r Datganiad ar Barodrwydd i Dderbyn Risg.
Er Gwybodaeth
13. Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus.